Daeth trwyddedu'n orfodol i dai aml-breswyliaeth yng Nghymru ar 30ain Mehefin 2006.
Ceir diffiniad newydd yn Neddf Tai 2004. Bydd adeilad (neu ran o adeilad) yn dŷ aml-breswyliaeth:
- os oes 3 neu ragor o bobl yn byw yno mewn 2 aelwyd neu ragor.
- os yw'r eiddo yn unig breswylfa neu'n brif breswylfa i'r bobl sy'n byw yno.
- os ydynt yn rhannu cyfleusterau sylfaenol e.e. cegin, ystafell ymolchi
- mae tai aml-breswyliaeth yn cynnwys fflatiau un ystafell, hosteli a thai a rennir, gan gynnwys tai myfyrwyr.
Nid ystyrir bod pobl yn byw ar yr un aelwyd oni bai eu bod yn aelodau o'r un teulu neu'n cyd-fyw fel pâr.
Bydd tai myfyrwyr bellach yn cael eu cyfrif yn dai aml-breswyliaeth.
Sut y gallaf gael trwydded i'm heiddo?
Mae'n rhaid llenwi ffurflen gais er mwyn cael trwydded. Mae'r ffurflen gais yn gofyn am lawer o wybodaeth ynghylch pwy biau'r eiddo a phwy sy'n ei reoli. Dan y gyfraith, mae’n rhaid i’r Cyngor gasglu'r wybodaeth hon.
Mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod trefniadau rheoli digonol ar waith yn yr eiddo, bod y safonau'n uchel a bod deiliad y drwydded yn unigolyn 'addas a phriodol'.
Pa safonau sy'n ofynnol er mwyn cael trwydded?
Mae'n rhaid bodloni'r Cyngor fod y tŷ aml-breswyliaeth yn rhesymol addas i fyw ynddo a byddwn yn edrych yn benodol ar y gegin a'r cyfleusterau ymolchi a'r rhagofalon tân. Os nad yw'r tŷ aml-breswyliaeth yn cydymffurfio â'r safon, fe all y Cyngor roi trwydded ar yr amod fod rhagor o gyfleusterau yn cael eu darparu.
Yn ogystal, mae’n rhaid bodloni'r Cyngor fod darpar ddeiliad y drwydded yn unigolyn 'addas a phriodol'. Os oes rheolwr, bydd yn rhaid iddo yntau/iddi hithau fod yn unigolyn 'addas a phriodol' a chanddo/chanddi gymhwysedd digonol. Mae'n rhaid i'r fframwaith rheoli a chyllido fod yn addas. Ni fydd y Cyngor yn rhoi trwydded oni bai ei fod
yn fodlon ar y pwyntiau uchod.
Nodir ar y ffurflen gais y materion y mae'n rhaid i'r Cyngor eu hystyried wrth benderfynu a yw darpar ddeiliad y drwydded a'r rheolwr yn bobl addas a phriodol.
Pwy ddylai fod yn ddeiliad trwydded?
A oes yn rhaid i'm hasiant rheoli fod yn 'addas' a phriodol?
Os ydych yn cyflogi asiant dan drefniant 'gosod yn unig' neu 'denant yn unig' yna fel rheol ni fyddwn yn mynnu cael manylion ynghylch a ydynt yn addas a phriodol. Nid oes yn rhaid llenwi Rhan 2 o’r cais ('Manylion y Rheolwr').
Fodd bynnag, os ydych yn rhoi caniatâd i asiant neu rywun arall reoli'r eiddo ar eich rhan o ddydd i ddydd, mae angen inni fod wedi'n bodloni ei fod/bod yn rhywun 'addas a phriodol'. Os yw hyn yn berthnasol, rhaid llenwi ail ran y ffurflen.
Os yw eich asiant neu reolwr yn gwneud unrhyw un o'r canlynol, rhaid iddo/iddi lenwi Rhan 2 o'r cais:
- Casglu'r rhent
- Bod yn brif gyswllt atgyweiriadau
- Trefnu i filiau gael eu talu
- Terfynu ac adnewyddu tenantiaethau
Os yw’r cyfrifoldeb beunyddiol am reoli'r eiddo wedi cael ei drosglwyddo i rywun arall, rhaid bodloni'r Cyngor fod y sawl hwnnw'n unigolyn 'addas a phriodol' ac yn gymwys. Rhaid llenwi Rhan 2 o'r cais.
Faint yw'r ffi?
£450 yw'r ffi ac mae'n rhaid ei thalu'n llawn wrth gyflwyno'r cais. Codir llai o ffi sef £400 ar breswylfeydd a gafodd eu hachredu yn rhan o Gynllun Achredu Llety Sir Gaerfyrddin.
Os gwrthodir rhoi'r drwydded, bydd y Cyngor yn egluro ei benderfyniad a bydd modd i'r ymgeisydd gyflwyno sylwadau. Unwaith eto, mae hawl i gyflwyno apêl i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl.
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Diogelu rhag Tân – y Safonau i Dai Aml-breswyliaeth
Rheoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Aml-feddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006
Rheoliadau Rheoli Tai Amlfeddiannaeth (Cymru) 2006
I gael rhestr o eiddo trwyddedig a landlordiaid, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Licenced HMO Premises.rtf (219 KB) Download Help