English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Mae'r wybodaeth ar gyfer y dudalen hon yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y wefan hon neu unrhyw wasanaethau y cyfeiriwyd ati ar y wefan, anfonwch e-bost at gwybodaeth@sirgar.gov.uk
Tai Aml-breswyliaeth 

Mae tŷ aml-breswyliaeth yn dŷ lle y mae nifer o bobl nad ydynt yn rhan o’r un teulu, yn byw ynddo. Gall hyn gynnwys fflat lle y mae sawl un yn byw. Mae'r tai hyn yn rhan bwysig o'r farchnad dai yn yr ardal hon ac mae'r Cyngor yn cydnabod hyn.

Mae enghreifftiau o dai aml-breswyliaeth yn cynnwys:-

Fflat un ystafell, rhai gwestai, llety sy'n debyg i westy gwely a brecwast, tai wedi'u rhannu yn fflatiau, tai a rennir a thŷ wedi'i osod fel llety.

Cliciwch ar y cysylltiadau isod i gael rhagor o wybodaeth:

  • Pam y bydd Swyddog yn ymweld â thŷ?
  • Beth sy'n digwydd os na chyflawnir y gwaith?
  • Arolygiad oherwydd cwyn
  • Diogelwch Nwy
  • Diogelwch Trydan

Pam y bydd Swyddog yn ymweld â thŷ?

Mae sawl rheswm pam fydd swyddog am ymweld â thŷ .

Efallai: -

  • Oherwydd cwyn Ar ôl derbyn cais i arolygu’r adeilad
  • Ei fod yn ymweliad arferol fel rhan o’r rhaglen arolygu tai aml-breswyliaeth
  • Ailarolygiad arferol (mae tai aml-breswyliaeth yn cael eu hailarolygu bob hyn a hyn).
  • Os nad yw'r lle yn cyrraedd y safon, gellir rhoi hysbysiad statudol i'r person perthnasol.

Mae hwn yn nodi’r hyn sy'n annerbyniol yn yr adeilad a'r gwaith y mae angen ei wneud i gyrraedd y safonau. Fel arfer mae hefyd yn nodi dyddiadau dechrau a chyflawni'r gwaith.

Beth sy'n digwydd os na chyflawnir y gwaith ?

Rhaid i'r gwaith a nodir mewn unrhyw hysbysiad ffurfiol gael ei gyflawni o fewn yr amser a bennir. Mewn achosion eithriadol gall y Cyngor ganiatáu rhagor o amser. Os na chyflawnir y gwaith erbyn y dyddiad a bennir, gall y Cyngor wneud y gwaith a gofyn i'r un a dderbyniodd yr hysbysiad dalu amdano, ac am gostau gweinyddol ynghyd â llog. Yn ogystal, gall y Cyngor erlyn rhywun am beidio ag ufuddhau. Gall erlyniad arwain at ddirwyon mawr ynghyd â dirwyon dyddiol am bob diwrnod y mae'r drosedd yn para.

Arolygiad oherwydd cwyn

Fel arfer derbynnir cwynion sy’n ymwneud â thai aml-breswyliaeth gan denantiaid presennol neu deulu/ffrindiau i denantiaid. O bryd i'w gilydd, cyfeirir tai i'r tîm gwasanaethau preswyl yn yr Adain Tai (drwy'r uned cyfeirio tai), gweithwyr cymdeithasol neu swyddogion iechyd perthnasol eraill sy'n ymweld â'r lle.
 
Fel arfer bydd swyddogion yn dod i wybod am y gwyn/ymholiad drwy eu dyddiadur cyfrifiadurol ar ITECS. Ym mhob achos bydd y swyddog arolygu yn ymateb i'r gwyn cyn pen pum niwrnod gwaith, drwy ffonio, ymweld neu ysgrifennu.
 
Arolygir yr adeilad yn llawn yn ôl y Ddeddf Tai 1985. Yn ogystal, cesglir manylion am y perchennog (os gwyddys), rhifau ac enwau pob preswylydd gan gynnwys manylion am eu gwaith. Bydd yr un sydd wedi cwyno yn cael gwybod am y camau gweithredu y bwriedir eu cymryd.
 
Os bydd y swyddog yn penderfynu bod yr adeilad yn cydymffurfio â phob deddfwriaeth berthnasol, ni wneir rhagor. Os nodir bod y gyfraith wedi cael ei thorri, gweithredir yn ôl y ddeddfwriaeth berthnasol.
 
Os nad yw'r swyddog arolygu yn cael mynd i mewn i'r adeilad neu ran o'r adeilad, dylid dilyn y weithdrefn fel a ganlyn:-

1) Anfon llythyr at y preswylydd i drefnu dyddiad ac amser.
2) Os nad yw'r swyddog yn cael mynd i mewn i'r adeilad am yr ail dro, anfonir llythyr arall i ofyn i’r preswylydd gysylltu â'r swyddfa cyn pen 7 niwrnod ac yn amlinellu ein hawdurdod o ran cyflwyno Hysbysiad o’r Bwriad i fynd i mewn.
3) Os na dderbynnir ateb ac ni ellir mynd i mewn i'r adeilad gellir cyflwyno Hysbysiad o’r Bwriad i fynd i mewn.
 
Rhaid ysgrifennu adroddiad arolygu llawn sy'n cynnwys cynllun tân ac eglurhad a rhaglen o waith sy'n ymwneud â dihangfeydd rhag tân ac atgyweiriadau.
 
Cysylltu â'r perchennog……………
 
Cyflwyno hysbysiad ynghylch bwriadau……
 
Os nad oes ymateb cyn pen 14 diwrnod ar ôl cyflwyno hysbysiadau statudol……..
 
Os yw'r person yn ufuddhau i'r hysbysiad o fewn y cyfnod a bennir, nid oes angen gwneud rhagor. Os na fydd y person yn ufuddhau gall yr Awdurdod erlyn, cyflawni'r gwaith yn niffyg talu, neu'r ddau. 

Diogelwch Nwy

Mae angen cael ardystiad cynnar gan osodwr CORGI cofrestredig o ran yr offer nwy. Mae'n rhaid i'r landlord gadw cofnod o'r gwiriadau diogelwch ac mae'n rhaid dangos hwn i denantiaid pe gwneir cais amdano. Rhaid i bob gwaith a wneir ar offer nwy gael ei gyflawni gan gyflenwr CORGI cofrestredig, a fydd wedyn yn ardystio diogelwch yr offer.

Diogelwch Trydan

Yn yr un modd, awgrymir eich bod yn cael tystysgrif diogelwch trydan bob blwyddyn ar gyfer unrhyw larymau mwg neu systemau goleuo mewn argyfwng. Pan fydd unrhyw waith trydan yn cael ei wneud, awgrymir eich bod yn gofyn am dystysgrif gan y cyflenwr yn unol â'r Rheolau Gwifrau. Gofynnir am y dystysgrif hon mewn unrhyw hysbysiad ynghylch cyflawni gwaith angenrheidiol ar systemau trydan.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/8/2008