Yn ôl y Ddeddf Gwarchod rhag Dadfeddiannu 1977, mae dadfeddiannu tenant heb ddilyn y drefn gyfreithiol gywir yn drosedd. Mae'r ddeddf hefyd yn datgan ei bod yn drosedd i landlord, ei asiant neu unrhyw un aflonyddu ar denant gan fwriadu ei orfodi i adael ei gartref.
Beth fydd yr Adran yn ei wneud?
Gall Swyddog Iechyd yr Amgylchedd geisio datrys y ddadl sydd rhwng y landlord a'r tenant, os bydd hynny’n briodol. Os bydd Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn credu bod digon o dystiolaeth, gall y Cyngor ystyried ymgymryd ag erlyniad troseddol.
Y Cyngor fydd yn ymgymryd â'r erlyniad ac ni fydd rhaid i'r tenant dalu am ddim, er bydd rhaid iddo fod yn bresennol yn y llys i roi tystiolaeth. Os bydd yr erlyniad yn llwyddiannus bydd y landlord yn cael ei ddirwyo neu ei garcharu ac o ganlyniad bydd ganddo hanes troseddu.
Beth yw dadfeddiannu anghyfreithlon ?
Mae dadfeddiannu anghyfreithlon yn digwydd pan fydd preswylydd yn cael ei amddifadu'n anghyfreithlon o'i lety i gyd neu ran o'i lety.
- Ymron pob achos mae’n drosedd (anghyfreithlon) i ddadfeddiannu tenant heb fynd i'r llys yn gyntaf.
- Mae ceisio dadfeddiannu'n anghyfreithlon yn drosedd.
- Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un ai tenant neu drwyddedai yw’r preswylydd.
- Nid yw’n gwneud gwahaniaeth a yw’r tenant wedi torri amodau ei gontract e.e. mae arno rent i'r landlord, nid yw’n caniatáu i'r landlord ddod i mewn i gyflawni atgyweiriadau, neu mae’r cyfnod sefydlog wedi dod i ben.
- Hyd yn oed os bydd gan y landlord orchymyn ildio meddiant, mae'n rhaid ei orfodi ynghyd â gwarant beili.
Beth yw Aflonyddu ?
Mae'n drosedd i landlordiaid neu eu hasiantau:
- Weithredu mewn ffordd sy'n ymyrryd â llonyddwch a chysur eu tenantiaid.
- Tynnu yn ôl y gwasanaethau angenrheidiol i’r bobl sy'n byw yn y llety (mae gwasanaethau angenrheidiol yn cynnwys dŵr, nwy a thrydan, neu lifftiau mewn fflatiau).
- Gweithredu mewn ffordd y gwyddent neu y mae ganddynt reswm da dros gredu, y bydd y gweithredoedd hyn yn debygol o beri i'r tenantiaid adael eu cartref neu eu hymatal rhag arfer eu hawliau.
- oni bai y gallant brofi bod ganddynt reswm da dros wneud y pethau felly.
Rhai Enghreifftiau o Ddadfeddiannu Anghyfreithlon:
Cael eich atal rhag mynd i mewn i ystafell gan fod y drws ar glo
Nid ydych yn cael mynd i mewn i ystafell a rennir â phobl eraill fel arfer e.e. cegin neu ystafell fyw
- Gwaith adeiladu yn golygu na ellir defnyddio rhan o'r cartref
- Cael eich gyrru allan o'ch cartref.
- AC nid oes gorchymyn llys yn rhoi caniatâd i’r landlord wneud hyn.
Mae rhai o hawliau'r tenantiaid yn cynnwys mynnu bod yr adeilad mewn cyflwr da, ceisio cyngor am eu hawliau tai, neu fynd i dribiwnlys rhenti.