Mae’r Awdurdod yn gyfrifol am sicrhau bod y safleoedd carafanau sydd ar gael yn y Sir yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol a hefyd unrhyw safonau sydd wedi’u mabwysiadu.
1. Bydd angen, mae’n debyg, ar i bob safle carafanau gael caniatâd cynllunio gan yr Adran Adfywio cyn i Is-adran Diogelu’r Cyhoedd ymgymryd â’r cyfrifoldeb o drwyddedu’r safle.
2. Diffinnir y safonau y mae angen cadw atynt yn y Safonau Enghreifftiol sydd wedi’u mabwysiadu gan yr Awdurdod. Mae’r safonau hyn yn nodi amrywiol meini prawf megis darparu cyfleusterau toiled, diogelwch rhag tân, cael gwared â gwastraff ayb.
3. Mae’r Adran yn fodlon arolygu safleodd carafanau heb y trwyddedau angenrheidiol ac nad ydynt o bosib yn cadw at y safonau a bennir.