Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu fersiwn y strategaeth cynaliadwyedd tai er mwyn sicrhau bod y gwelliannau a wnawn i gartrefi ein tenantiaid drwy Raglen Safon Tai Sir Gaerfyrddin yn gwneud cartrefi ein tenantiaid a'u cymunedau'n gynaliadwy i'r cenedlaethau sydd i ddod.
Mae'r strategaeth yn ystyried deng thema cynaliadwyedd:
• Dŵr
• Ynni
• Ein Cymunedau
• Trafnidiaeth
• Llygredd
• Rheoli
• Iechyd a lles
• Hyfforddi a Datblygu
• Deunyddiau
• Gwastraff
Bydd pob thema yn nodi ystod o fesurau gweithredu y bydd angen mynd i'r afael â hwy er mwyn sicrhau ein bod yn:
• Gwella perfformiad ein cartrefi o ran ynni
• Gostwng faint o garbon deuocsid syn cael ei ryddhau a chyfyngu ein heffaith ar y newid yn yr hinsawdd
• Cyflwyno technoleg adnewyddadwy
• Gwella iechyd a lles yn eich cymunedau
• Annog gweithgarwch a chyfrannu cymunedol
• Cynhyrchu cyn lleied ag y bo modd o wastraff ac annog mentrau ailgylchu
• Gwarchod yr amgylchedd naturiol
• Defnyddio deunyddiau cynaliadwy
• Creu cyfleoedd gwaith a hyfforddiant
• Helpu i greu cymunedau y mae pobl yn dymuno byw a gweithio ynddynt, nawr ac yn y dyfodol