English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/12/2011
Atebion i'ch Cwestiynau 

Gan ein bod ni wedi cyflwyno polisi newydd, mae gennym nifer o gwestiynau sy'n cael eu gofyn yn aml inni. 

1. Pam rydych chi'n newid y ffordd rydych chi'n dyrannu eich tai?

Roedd gan y polisi blaenorol system bwyntiau gymhleth a oedd yn ddryslyd ac nid oedd yn rhoi cyfle go iawn ichi gael tŷ.

Bydd y polisi newydd yn sicrhau y rhoddir tai i'r rhai sydd â'r angen mwyaf ac yn rhoi gwybod ichi faint o obaith sydd gennych o gael tŷ mewn gwirionedd.

2. Pwy oedd ynghlwm wrth ddatblygu'r polisi newydd?

Roedd ystod eang o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal gan gynnwys ymgynghori â'r bobl a oedd eisoes ar y gofrestr tai, y tenantiaid, yr aelodau lleol, y staff a'r asiantaethau partner.

3. Sut mae'r polisi newydd yn gweithio?

Caiff ceisiadau eu hasesu ar sail yr angen am dŷ.  Byddwch chi'n cael eich gosod mewn 1 o 4 categori; amrywia'r rhain o Gategori A sy'n rhoi'r pwyntiau mwyaf ichi i Gategori D sy'n rhoi'r pwyntiau lleiaf ichi.

Pan fydd tŷ ar gael, bydd yn cael ei ddyrannu i'r ymgeisydd sydd â'r nifer mwyaf o bwyntiau ar y gofrestr tai.

4. A fyddaf i yn yr un categori o hyd? 

Byddwch, oni bai bod eich amgylchiadau yn newid.  Mae'n rhaid ichi ddweud wrthym ni os yw eich amgylchiadau wedi newid er mwyn inni eich ailasesu chi.  Gallai hyn olygu eich bod chi'n symud lan neu'n symud lawr i gategori arall neu'n parhau yn yr un categori.

5. Beth os ydwyf i'n anghytuno â'r categori rydwyf wedi cael fy ngosod
ynddo?

Gallwch apelio ynghylch yr asesiad o'r angen am dŷ ond mae'n rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig cyn pen 21 diwrnod o ddyddiad y llythyr rydych chi'n ei dderbyn.  Dylech roi rhesymau pam rydych chi o'r farn y dylem ailasesu eich cais.