English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cofrestru ar gyfer Cartref Fforddiadwy  

I gofrestru ar gyfer cael cartref fforddiadwy bydd yn rhaid ichi gwblhau ffurflen gais ar gyfer y Gofrestr Dewis Tai.

Bellach gallwch wneud cais am gartref fforddiadwy ar-lein drwy gwblhau ein ffurflen electronig.

Ffurflen Gais Ar-lein ar gyfer Tai Fforddiadwy.

Fel arall, cwblhewch ffurflen gais ar bapur a'i dychwelyd at unrhyw Swyddfa Dai Ranbarthol neu Swyddfa Cymdeithas Dai yn Sir Gaerfyrddin (mae'r cyfeiriadau ar y ffurflen)

Gallwch gael gafael ar ffurflen gais y Gofrestr Dewis Tai drwy:

  • galw yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid
  • ysgrifennu at Y Gwasanaethau Tai, Cyngor Sir Caerfyrddin, Tŷ Elwyn, Llanelli, SA15 3AP
  • cysylltu â'r Tîm Perchentyaeth drwy ffonio 01554 742196
  • ffacsio eich cais i'r rhif canlynol - 01554 742192
  • anfon neges e-bost at tai@sirgar.gov.uk
  • defnyddio minicom - 01267 223867
  • anfon neges destun i'r rhif canlynol - 07766 406506
  • lawrlwytho ffurflen gais o'n gwefan a'i hargraffu

Os oes gennych ddiddordeb mewn tai sydd ar rent a thai sydd ar werth, bydd angen ichi gwblhau ffurflen ar bapur ac ateb yr holl gwestiynau.

Bydd angen ichi roi manylion inni am eich incwm pan fydd cyfle'n codi i gael cartref fforddiadwy, ond nid oes angen y manylion hyn arnom yn y lle cyntaf.

Hefyd gallwch gwblhau'r cais papur ond dim ond yr adrannau ar dudalen 3 y mae angen ichi eu llenwi. Peidiwch ag anghofio ticio'r blwch ar dudalen 3 i ddangos bod gennych ddiddordeb mewn cartrefi fforddiadwy sydd ar werth.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/3/2013
 
Manylion Cysyllt
 
Ffon: 01554 899325
Facs: 01554 742192
E-bost: Tai@sirgar.gov.uk
Gwasanaeth Minicom 01267 223867 
Negeseuon testun: 07766 406506