English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Y Polisi Tai Fforddiadwy 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu'r polisi canlynol (ar 3ydd Ionawr 2008) i benderfynu pwy fydd yn cael blaenoriaeth o ran tai fforddiadwy sydd ar werth. Rhoddir blaenoriaeth i bobl sydd:


• yn 18 oed neu'n hŷn
• yn methu fforddio morgais fyddai'n eu galluogi i brynu cartref addas i'w hanghenion ar y farchnad agored, ond a fyddai'n gallu fforddio cartref fforddiadwy drwy forgais a blaendal
• yn byw yn Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd neu sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin ond yn byw mewn sir gyfagos
• â chysylltiad lleol hir dymor â Sir Gaerfyrddin. Caiff hyn ei ddiffinio fel pobl sydd wedi byw yn Sir Gaerfyrddin o'r blaen am gyfnod o 10 mlynedd o leiaf, neu bobl y mae eu rhieni'n byw yn Sir Gaerfyrddin
Fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Caerfyrddin i ddarparu tai fforddiadwy, rydym wedi llwyddo i gael swm bach o gyllid gan  Lywodraeth Cynulliad Cymru i'w ddefnyddio ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.
Nod y cynllun yw helpu pobl i brynu tŷ yn y farchnad agored, drwy gyfrannu hyd at 30% o bris prynu'r eiddo i ymgeiswyr a fyddai wedyn yn cyllido gweddill y gost drwy gael morgais fel arfer.

Mae bod yn gymwys ar gyfer y cynllun fel y nodwyd uchod, ond mae'r meini prawf cymhwyso canlynol mewn grym hefyd:
Teuluoedd â phlant, ac wedyn cyplau.
Ni fydd pobl sengl yn gymwys ar gyfer Cymorth Prynu.
Hefyd, rhoddir blaenoriaeth i denantiaid tai cyngor a thenantiaid cymdeithasau tai presennol, ac i brynwyr am y tro cyntaf.

Bydd y cynllun yn cael ei weinyddu gan ein partneriaid yn Gŵyr Homes, sy'n rhan o Grŵp Gwalia.

A fyddech cystal â chysylltu â Jo Margetts yn Gŵyr Homes drwy ffonio 01792 488250 os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch y Cynllun Cymorth Prynu.

Noder nad yw mynegi eich diddordeb a chwblhau'r ffurflen gais yn sicrhau eich bod wedi cael eich derbyn ar gyfer y Cynllun Cymorth Prynu.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 28/5/2010