Menter gan Gyngor Sir Caerfyrddin yw cynllun Achredu Llety Sir Gaerfyrddin a fydd yn cydnabod y preswylfeydd hynny yn y sector rhentu preifat sy’n cael eu cynnal a’u cadw a’u rheoli’n dda.
Nod cyflwyno’r cynllun yw gwella safon tai rhentu preifat drwy’r Sir.
Mae ymuno â’n cynllun yn rhoi llawer o fanteision i landlordiaid megis gallu cael nwyddau a gwasanaethau am bris disgownt gan
gynnwys yswiriant adeiladau. Hefyd bydd landlordiaid preswylfeydd achrededig yn hyderus bod eu heiddo’n bodloni ein safonau a gallant hysbysebu’r ffaith honno. Bydd y cynllun yn galluogi darpar denantiaid i adnabod cartrefi o safon dda fydd yn rhoi llety derbyniol, saff a diogel iddynt.
Bydd y preswylfeydd yn cael eu hachredu’n unigol ac yn ennill gwobr Aur, Arian neu fydd ar sail asesiad iechyd a diogelwch, cyflwr cyffredinol a pha mor dda y cânt eu rheoli. Ni fydd dim cyfyngiad ar andlordiaid gael bod yn berchen ar rai preswylfeydd achrededig a rhai heb eu hachredu.
Er mwyn ymuno â’r cynllun disgwylir i’r preswylfeydd gydymffurfio ag amrywiaeth o safonau’n ymwneud â phethau fel diogelwch nwy a thrydan, cynnal a chadw cyffredinol, rhagofalon tân ac ati.
Mae’r cynllun yn un gwirfoddol, mae’r aelodaeth am ddim ac mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’ch helpu chi i fod yn landlord neu’n asiant rheoli eiddo achrededig.
Beth yw amcanion y Cynllun Achredu?
Amcanion y Cynllun yw annog, cydnabod, codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo safonau ac arferion rheoli da gan landlordiaid, a helpu landlordiaid a thenantiaid i weithredu’r cyfrifoldebau sydd ganddynt tuag at ei gilydd. Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn gallu rhoi cyfarwyddyd ynghylch cydymffurfio os gofynnir amdano. Mae’r Cynllun yn cynnwys elfen o hunan reoleiddio ac felly’n dibynnu i ryw raddau ar ewyllys da ac ymddiriedaeth landlordiaid, tenantiaid a Chyngor Sir Caerfyrddin.
Mae’r Cynllun yn mynnu bod cyflwr ffisegol y preswylfeydd, darpariaeth cyfleusterau sylfaenol a’r arferion rheoli, yn rhai teg a rhesymol, ac nid yn debygol o fod yn niweidiol i iechyd, diogelwch na lles y tenantiaid na’r gymdogaeth. Rhaid i lofnodwyr y Cynllun sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau cyfreithiol yn ogystal â gofynion y Cynllun.
Bydd cydymffurfio â’r Cynllun yn sicrhau bod landlordiaid, tenantiaid ac aelodau o’r gymuned yn mwynhau manteision amodau preswylio da, rheolaeth gymwys ac ymddygiad cymdogol ystyriol. Ceir llai o gamddealltwriaeth ac anghydfodau. Os bydd problemau’n digwydd yna cânt eu datrys yn gyflym.