Mae nifer o fusnesau a chrefftwyr lleol yn cefnogi Cynllun Achredu Llety Sir Gaerfyrddin ac yn cynnig prisiau ffafriol i bob landlord achrededig.
Mae'r holl fusnesau/crefftwyr hyn yn rhan o'r cynllun Masnachwyr Cofrestredig a ddarperir gan Adain Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin.
Os hoffai busnes/masnach ddod yn rhan o Gynllun Achredu Llety Sir Gaerfyrddin, dylai gysylltu â Mark Thomas yn y Tîm Gwella Cartrefi drwy ffonio 01554 744333.