English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Telerau ac Amodau 

These are the new NJC Terms and conditions from 1st April 2012

Bydd rhai o'r cynigion yn effeithio ar weithwyr a gyflogir yn unol ag amodau gwaith Soulbury, Ieuenctid a Chymuned, Gweithwyr Crefft (Llyfr Coch) a'r Cyd-bwyllgor Trafod Telerau (JNC) a nodir y rhain yn glir wrth ichi ddarllen trwy'r ddogfen.

Y prif feysydd yr effeithir arnynt fydd y rhai canlynol:

LWFANSAU SIFFT A GWEITHIO AR Y PENWYTHNOS
Bydd taliadau sifft blaenorol yn cael eu dileu a bydd lwfans o 8% yn cael ei dalu i weithwyr sy'n gweithio o leiaf ddau ddiwrnod/sifft penwythnos ym mhob 4 wythnos fel rhan o'u patrwm gweithio rheolaidd.

GWEITHIO GORAMSER
Bydd gweithwyr y mae'n ofynnol iddynt weithio mwy na 37 awr yr wythnos yn derbyn cyflog Amser a Hanner.  Bydd y gwaharddiad presennol yn cael ei ddileu.

GWEITHIO AR WYLIAU BANC / GWYLIAU CYHOEDDUS
Bydd gwaith ar y banc / gwyliau cyhoeddus yn cael ei dalu ar Amser dwbl.

GWYLIAU BLYNYDDOL A DIWRNODAU STATUDOL YCHWANEGOL
Bydd y 2 ddiwrnod statudol presennol yn cael eu diddymu a'u hychwanegu at y gwyliau blynyddol a fydd yn rhoi mwy o ddewis a hyblygrwydd i'r holl staff o ran pryd i gymryd y gwyliau hyn.  Mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr y Cyd-gyngor Cenedlaethol ar draws yr Awdurdod yn ogystal â'r gweithwyr a gyflogir yn unol ag amodau gwasanaeth Soulbury, Ieuenctid a Chymuned, Gweithwyr Crefft a'r Cyd-bwyllgor Trafod Telerau.

TÂL DEFNYDDIWR CAR HANFODOL
Bydd tâl defnyddiwr car hanfodol yn cael ei ddileu.  Ni fydd hyn yn effeithio ar lawer o weithwyr cymwys ar unwaith oherwydd bydd y tâl yn parhau i gael ei dalu hyd at 31ain Mawrth 2013.  Mae hyn yn berthnasol i'r holl weithwyr cymwys ar draws yr Awdurdod gan gynnwys y rhai a gyflogir yn unol ag amodau gwasanaeth Soulbury, Ieuenctid, Gweithwyr Crefft a'r Cyd-bwyllgor Trafod Telerau.

CYFRADDAU MILLTIROEDD
Cyflwynir un gyfradd milltiroedd yn gysylltiedig â chyfraddau Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wrth weithredu Statws Unffurf.  Y gyfradd ar hyn o bryd yw 45c y filltir hyd at 10,000 o filltiroedd y flwyddyn a 25c y filltir wedi hynny.

GWAITH NOS
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn lwfansau gwaith nos o amser a thraean, bydd yn rhaid i'r gweithwyr weithio o leiaf dair awr effro rhwng 11pm a 6am.
Bydd taliadau Oriau Anghymdeithasol yn dod i ben.
Bydd sifftiau 'cysgu i mewn' yn parhau i dderbyn y taliad presennol ac yn unol â'r taliadau a nodir yn y llyfr gwyrdd.

AROS GALWAD / GALW I FYND ALLAN
Bydd y trefniadau aros galwad a galw i fynd allan yn cael eu safoni ar draws yr Awdurdod.  Telir gweithwyr sy’n cael eu ‘galw i fynd allan’ yn unol â’u cyfradd cyflog arferol am yr oriau gwaith yn ogystal â chyfraddau goramser/ychwanegol os yw'n briodol.

GWEITHWYR YN YSTOD Y TYMOR
Bydd y taliad cadw dros yr haf yn dod i ben.

Cyflwynir lwfans o 4% ar gyfer gweithwyr (mewn ysgolion fel arfer) y mae eu contract yn eu cyfyngu i weithio yn ystod y tymor ac os nad yw'r gwasanaeth yn gallu cynnig unrhyw hyblygrwydd i weithio y tu allan i'r trefniadau hyn.
Bydd y fformwla ar gyfer cyfrifo gwyliau blynyddol ac ati i'r rhai sy'n gweithio yn ystod y tymor yn cael ei safoni ar draws yr Awdurdod.

CYNLLUNIAU TALIADAU BONWS Y CYD-GYNGOR CENEDLAETHOL
Bydd y cynlluniau taliadau bonws hyn a'r taliadau cysylltiedig yn dod i ben o dan strwythur cyflogau a graddau Statws Unffurf.

CYNLLUNIAU GWOBRAU AM WASANAETH HIR
Mae rhai gweithwyr wedi trosglwyddo'r gwasanaeth cymwys a gyflawnwyd o dan gynlluniau awdurdod lleol blaenorol.  Er mwyn sicrhau cysondeb i bawb, bydd y cynlluniau hyn yn peidio â chronni gwasanaeth cymwys ar 31ain Mawrth 2013.  Mae hyn yn berthnasol i'r holl weithwyr cymwys ar draws yr Awdurdod gan gynnwys y rhai a gyflogir yn unol ag amodau gwasanaeth Soulbury, Ieuenctid a Chymuned, Gweithwyr Crefft a'r Cyd-bwyllgor Trafod Telerau.

CYFNODAU TALU
Bwriad y Cyngor yw symud yr holl weithwyr i gyflogres bedair wythnos neu fisol fel rhan o weithredu statws unffurf.

LWFANSAU ERAILL YR EFFEITHIR ARNYNT:
Lwfans dosbarth arbennig
Lwfans bwydo boeleri
Lwfans gosodiadau
Lwfansau prydau bwyd
Lwfans golchi dillad
Tocynnau bws ar gyfer teithio i'r gwaith ac o'r gwaith
Bydd y rhan fwyaf o'r rhain yn cael eu diddymu neu'n cael eu hadlewyrchu yn y broses gwerthuso swyddi.

CYMORTH AR GYFER STAFF
Mae'r Cyngor yn cydnabod yn llwyr yr effaith y bydd yr adolygiad hwn yn ei chael ar weithwyr a bydd yn cynnig iawndal dewisol fel cydnabyddiaeth o'r newid i strwythur cyflogau a graddau ac amodau gwasanaeth newydd.  Bydd hyn yn cynnwys lliniaru'r effaith ariannol ar weithwyr y bydd eu cyflog yn gostwng wrth weithredu statws unffurf.  Yn ogystal, mae'r Cyngor yn llunio pecyn cymorth ar gyfer staff.  Bydd manylion llawn am hyn ar gael dros y misoedd nesaf.

Bydd canllaw llawn i'r cynigion hyn yn cael ei lunio a'i anfon at bawb yr effeithir arnynt ynghyd â llythyr yn amlinellu sut mae'r cynigion yn effeithio arnoch chi'n bersonol.  Dylai hwn fod ar gael o'r 1af Medi 2011.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/3/2012