Beth yw’r Cytundeb Statws Unffurf?
Cafwyd cytundeb yn genedlaethol ynghylch Statws Unffurf rhwng Cyflogwyr Llywodraeth Leol a'r Undebau Llafur yn 1997.
Mae'n disgrifio fframwaith a fydd yn fodd i uno telerau ac amodau gwaith gwahanol y gweithwyr llaw gynt (y llyfr gwyn) a gweithwyr gweinyddol, proffesiynol, technegol a chlercol (APT&C) (y llyfr porffor) dan fantell y llyfr ‘Gwyrdd' newydd.
Y canlynol yw prif nodweddion y cytundeb hwn:
• Strwythur cyflogau a graddfeydd unffurf ar gyfer staff y 'llyfr gwyrdd'
• Cysoni telerau ac amodau
• Wythnos waith safonol 37 awr
• Adolygu graddfeydd ar sail yr un cyflog am yr un gwaith
Beth yw ystyr Statws Unffurf?
Mae Statws Unffurf yn caniatáu i’r Cyngor bennu ei gyflogau a’i amodau gwasanaeth yn lleol i alluogi gweithio hyblyg a gwella darpariaeth gwasanaethau i’n cwsmeriaid. Gwneir hyn drwy ymgynghori â’r Undebau Llafur i sicrhau bod anghenion y Cyngor a’i weithwyr yn cael eu diwallu.
Os llofnodwyd y cytundeb yn 1997, pam y mae wedi cymryd cymaint o amser i gyrraedd y fan hon?
Er bod y cytundeb wedi’i lofnodi yn 1997, nid oedd y rhan fwyaf o gynghorau ledled Cymru a Lloegr wedi gweithio tuag at ei weithredu nes iddo ddod yn rhan o’r setliad cyflogau 3 blynedd yn 2004. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â’r Undebau Llafur i ddod i gytundeb ar y cynigion Statws Unffurf a dyddiad gweithredu.
Dyddiad diweddaru Mawrth 2011