Beth yw ystyr Gwerthuso Swyddi?
Proses yw Gwerthuso Swyddi er mwyn penderfynu ar werthoedd cymharol swyddi oddi mewn i un awdurdod. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl swyddi yn cael eu gwerthuso yn yr un modd, gan hoelio sylw ar y swydd ac nid ar y sawl sy'n gwneud y swydd. Mae'n fodd i sefydliadau wneud adolygiad teg o'u strwythurau cyflogau a graddfeydd drwy werthuso pob swydd gan ddefnyddio'r un meini prawf.
Pa Gynllun Gwerthuso Swyddi a ddefnyddir?
Mae'r Cyngor wedi defnyddio cynllun gwerthuso swyddi Cyngor Taleithiol Llundain Fwyaf (GLPC) sy'n cael ei gydnabod gan awdurdodau fel proses gadarn, systematig sy'n hawdd ei defnyddio. Mae'r cynllun wedi hen brofi'i werth, yn cael ei gefnogi gan yr Undebau Llafur ac yn cydymffurfio â'r gofynion o ran Cyflog Cyfartal a Statws Unffurf.
Mae 1600 o swyddi wedi cael eu gwerthuso gan ddefnyddio'r cynllun hwn ar y cyd â'r Undebau Llafur sy'n cydweithio â'r Cyngor.
Sut y mae’r broses gwerthuso swyddi wedi’i chynnal?
Cam cyntaf y broses oedd penodi tîm penodedig ar gyfer gwerthuso swyddi i ddechrau casglu gwybodaeth, llunio holiaduron gwerthuso swyddi a'u rhoi i'r staff a threfnu paneli gwerthuso ar y cyd a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran yr undebau llafur ac aelodau o'r tîm gwerthuso swyddi.
Roedd y panel gwerthuso wedi cytuno ar lefel ar gyfer pob swydd yn y Cyngor. Mae pob lefel ffactor yn cyfateb i nifer penodol o bwyntiau a phennir sgôr swydd yn ôl cyfanswm ei phwyntiau. Mae sgôr y swydd yn dynodi rhychwant y swydd a'i safle cymharol yn y strwythur graddfeydd a chyflogau.
Pryd fydd y gwaith yn cael ei gwblhau?
Mae'r gwerthusiadau cychwynnol ar gyfer yr holl swyddi wedi cael eu cwblhau. Fodd bynnag, mae proffiliau swyddi yn newid a chaiff swyddi newydd eu creu o bryd i'w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd mae angen ailwerthuso'r swyddi. Bydd y broses hon yn un barhaus. Lluniwyd strwythur cyflogau a graddfeydd ac aed ati i adolygu telerau ac amodau gyda golwg ar gysoni'r rhain ar draws yr Awdurdod. Hefyd, aseswyd effaith y cynigion ar gydraddoldeb er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion presennol o ran deddfwriaeth cydraddoldeb.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Unwaith y byddwch yn fodlon derbyn y newidiadau, gofynnir i chi lofnodi'r Ffurflen Dderbyn a'i dychwelyd yn yr amlen a ddarparwyd. Cewch hyd iddi ar gefn eich Datganiad o Wybodaeth Bersonol.
Sylwer mai'r dyddiad cau ar gyfer derbyn eich Ffurflen Dderbyn wedi'i llofnodi yw 30ain Medi 2011. Dylech lofnodi a dychwelyd eich Ffurflen Dderbyn erbyn 30ain Medi 2011 hyd yn oed os ydych wedi cofnodi apêl / yn bwriadu cofnodi apêl neu os oes gennych ymholiad sydd heb ei ateb. Os bydd unrhyw newidiadau'n codi o'r apêl neu'r ymholiad, byddant yn cael eu hôl-ddyddio lle bo'n briodol.
Byddwn yn ysgrifennu atoch eto ar ôl i’ch Ffurflen Dderbyn wedi'i llofnodi ddod i law, gan roi manylion llawn ichi ynghylch eich hawl i dderbyn Taliadau yn ôl disgresiwn wrth weithredu'r cynllun. Hefyd byddwn yn rhoi gwybod ichi sut y gallwch drefnu apwyntiad i ddod i ddiwrnod 'galw heibio' a llofnodi eich Cytundeb COT3/Cyfaddawd.