English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Tudalen wedi ei diweddaru ar 26/9/2011
Statws Unffurf a Gwerthuso Swyddi 

 

Statws Unffurf a Gwerthuso Swyddi

Datblygwyd y tudalennau hyn er mwyn rhoi gwybodaeth bwysig ichi ynghylch argymhellion y Cyngor o ran Statws Unffurf a'r modd y gallent effeithio arnoch.

Newyddion diweddaraf...

Cyfarfod â’r Undebau Llafur, 21 Medi 2011(.pdf)


Mae wedi bod yn dasg anferth i ddod â’r prosiect i’w derfyn a bu’n hollbwysig caniatáu digon o amser i’w gael yn iawn. Nid ymarfer torri costau yw hyn ac rydym wedi buddsoddi amser ac arian ychwanegol i sicrhau bod ein system cyflogau a gwobrwyon yn fforddiadwy ac yn gynaliadwy. Mae hefyd yn bwysig pwysleisio bod y newidiadau wedi cael eu datblygu i sicrhau bod ein system cyflogau a gwobrwyon yn cynnal arferion gweithio hyblyg modern er mwyn ein galluogi i ddiwallu anghenion y gymuned leol yr ydym yn ei gwasanaethu, heddiw ac yn y dyfodol.
Mae tîm penodedig wedi bod yn gweithio ar y prosiect hwn ers dros ddwy flynedd. Hefyd bu aelodau etholedig, ar ffurf Panel Ymgynghorol yr Aelodau - Statws Unffurf, yn gysylltiedig â gwirio'r newidiadau arfaethedig a chytuno arnynt.
Yn anochel mewn unrhyw gynllun Gwerthuso Swyddi bydd rhai ar eu hennill ac  eraill ar eu colled. Fodd bynnag i gynnal staff a fydd yn wynebu gostyngiad yn eu henillion, bydd yr Awdurdod yn darparu cyfres o fesurau yn ôl disgresiwn a fydd yn lleddfu effaith y newidiadau.

Mae’r cynigion hyn wedi cael eu cefnogi a’u cadarnhau gan Fwrdd Gweithredol yr awdurdod sydd, yn ddiweddar, wedi cymeradwyo buddsoddiad ychwanegol i’r gyllideb cyflogau fel bod modd gweithredu Statws Unffurf a Gwerthuso Swyddi.

Prif nodau'r cynigion yw:

• Sicrhau y telir yr un cyflog am yr un gwaith
• Moderneiddio'r strwythur cyflogau sydd gan y Cyngor
• Sicrhau bod strategaeth y Cyngor o ran talu a gwobrwyo gweithwyr yn cefnogi dulliau gweithio hyblyg a darparu gwasanaethau modern
• Cysoni amodau gwaith eraill, er enghraifft, taliadau goramser, lwfansau teithio

Mae’r tudalennau hyn wedi’u datblygu i gefnogi’r broses o gyfathrebu gyda chi a byddant yn cael eu diweddaru’n rheolaidd pan fydd gwybodaeth newydd yn dod i law.
Mae pob adran wedi enwebu swyddogion a fydd yn bwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth ac unrhyw ymholiadau a allai fod gennych. Gweler yr adran gysylltiadau am ragor o wybodaeth.
Os byddwch yn teimlo, ar ôl ichi ddarllen y wybodaeth a gawsoch, bod arnoch angen rhagor o gyngor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â'ch rheolwr yn gyntaf.
Hefyd mae'n bosibl yr hoffech weld  y tudalennau ar Statws Unffurf ynwww.sirgar.gov.uk – cliciwch ar ‘Swyddi a Gyrfaoedd’ ac yna dilynwch y dolenni. Yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol mae adran ‘Cwestiynau Cyffredin’ a all gynnig ateb i rai o’ch cwestiynau.

Mae'r Ddesg Gymorth Gwybodaeth i Weithwyr hefyd wedi agor bellach, a gallwch fynd ag ymholiadau yno:

Ffoniwch 01267 246200 a siarad ag un o'n Gweithwyr Llinell Gymorth