Beth yw ystyr Gwerthuso Swyddi?
Proses yw Gwerthuso Swyddi er mwyn penderfynu ar werthoedd cymharol swyddi oddi mewn i un awdurdod. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl swyddi yn cael eu gwerthuso yn yr un modd, gan hoelio sylw ar y swydd ac nid ar y sawl sy'n gwneud y swydd. Mae'n fodd i sefydliadau wneud adolygiad teg o'u strwythurau cyflogau a graddfeydd drwy werthuso pob swydd gan ddefnyddio'r un meini prawf.
Pam rydym yn gwneud hyn?
- Yn sgil ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1996 roedd anghysonderau o ran cyflogau ledled yr awdurdod, ac mae rhai o'r anghysonderau hynny yn parhau hyd heddiw.
- Cytundeb Statws Unffurf yn 1997. Pwrpas hyn oedd cysoni telerau ac amodau cyflogaeth yr holl staff a gyflogir dan amodau'r 'llyfr gwyrdd' a sicrhau bod gweithwyr yn cael yr un cyflog am yr un gwaith.
- Yr un cyflog am yr un gwaith yw'r egwyddor sylfaenol - hynny yw, os yw gwerth dwy swydd ('y sgôr o ran pwyntiau' yn ôl y broses Gwerthuso Swyddi) yr un fath, mae angen sicrhau bod cyflogau'r ddwy swydd yr un fath.
- Cytundeb Cyflog 2004
A oes cynghorau eraill yn cynnal proses debyg?
Mae pob awdurdod lleol, ynghyd â chyrff cyhoeddus eraill fel yr Awdurdodau Tân a’r Heddlu yn cynnal neu wedi cwblhau adolygiad o gyflogau a graddfeydd. Bydd hyn yn sicrhau bod strwythurau graddfeydd teg gan yr holl awdurdodau, ac yn eu helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth Cyflogau Cyfartal.
A yw'r Undebau Llafur yn gefnogol i'r broses hon?
Mae'r tri Undeb Llafur – UNSAIN, y GMB ac Undeb Unite - wedi bod yn gysylltiedig â'r broses o'r cychwyn cyntaf, ac mae gan yr undebau gynrychiolwyr ar bob panel gwerthuso. Hefyd rydym yn cyfarfod â'r Undebau Llafur yn rheolaidd er mwyn siarad am y broses yn gyffredinol ac er mwyn trafod materion penodol.
Sut y bydd hyn yn gweithio?
Mae gennym Holiaduron Gwerthuso Swyddi yn ein ffeiliau ar gyfer y rhan fwyaf o'r swyddi. Pennir gwerthusiadau ar sail y wybodaeth a nodwyd yn eich proffil swydd ac yn eich holiadur gwerthuso swydd os oes un.
Gwerthusir pob swydd gan banel ar y cyd sy'n cynnwys Swyddog Gwerthuso Swyddi ac, os oes modd, aelod o bob Undeb Llafur.
Y cam olaf yn y broses yw Modelu Cyflogau, pryd y byddwn yn creu strwythur newydd ar gyfer cyflogau a graddfeydd.
Pam y mae rhai swyddi'n sgorio'n uwch na swyddi yr arferai'r tâl amdanynt fod yn uwch na hwy?
Mae'r cynllun GLPC yn cynnwys rhai ffactorau sy'n rhoi sylw i elfennau swydd nad ydynt wedi eu gwerthuso o'r blaen, er enghraifft, amodau gwaith (amodau twym / oer / swnllyd) a chyd-destun y gwaith (risg yn sgil cysylltiad â phobl neu yn sgil gweithgareddau corfforol). Efallai na fydd swyddi eraill a fu ar raddfa uwch yn y gorffennol yn sgorio cystal ar y ffactorau hyn, ac mae'n bosibl y rhoddir graddfa is iddynt yn y dyfodol.
Pam nad yw rhai swyddi'n sgorio'n dda o ran Adnoddau?
Mae Adnoddau ond yn berthnasol i swyddi sydd â chyfrifoldeb llwyr dros eitemau penodol o offer neu adeiladau. Nid yw eitemau a rennir nac eitemau fel gosodion yn y gweithle (cyfrifiaduron, ffonau ac ati) yn cyfrif.
A ddylai fy Mhennaeth Gwasanaeth neu fy Mhennaeth Ysgol fod ar y panel?
Na ddylai. Mae'r cyfweliad gwerthuso swyddi yn gyfle i chi a'ch rheolwr llinell esbonio eich swydd yn fanwl ac ateb unrhyw gwestiynau a all fod gennym. Mae'r panel gwerthuso yn ymarferiad technegol yn unig gan staff ac aelodau o undebau llafur a gafodd hyfforddiant ynghylch defnyddio'r cynllun GLPC.
Pryd fydd y gwaith yn cael ei gwblhau?
Mae'r gwerthusiadau cychwynnol ar gyfer yr holl swyddi wedi cael eu cwblhau. Fodd bynnag, mae proffiliau swyddi yn newid a chaiff swyddi newydd eu creu o bryd i'w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd mae angen ail-werthuso’r swyddi. Bydd y broses hon yn un barhaus.
Pryd fydd y graddfeydd yn cael eu rhoi ar waith?
Nid ydym wedi cytuno ar ddyddiad gweithredu â’r Undebau Llafur eto ond byddwn yn rhoi gwybod ichi pan fydd dyddiad pendant gennym.
A oes angen imi wneud rhywbeth ynghylch hyn?
Nid oes angen gwneud dim oni bai bod eich swydd wedi newid yn sylweddol ers i'r Holiadur Gwerthuso Swyddi gael ei gyflwyno neu ers i Broffil eich Swydd gael ei adolygu ddiwethaf.
Os yw'r naill neu'r llall yn berthnasol yn eich achos chi, cysylltwch naill ai â'ch rheolwr, â chynrychiolydd o’ch undeb llafur neu ag aelod o'r Tîm Gwerthuso Swyddi i gael cyngor.
Pwy fydd yn cysylltu â mi a phryd? Beth y dylwn ei wneud?
Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnom byddwn yn cysylltu â chi. Fel arall, ni fyddwn yn cysylltu â chi eto hyd nes y byddwn yn rhoi gwybod ichi am eich graddfa a'ch cyflog newydd. Ni allwn roi dyddiad ichi ar hyn o bryd ond byddwn yn parhau i gyhoeddi'r newyddion diweddaraf yn y Gair ac ar y Fewnrwyd. Pan fyddwn mewn sefyllfa i roi gwybod ichi beth yw eich graddfa a'ch cyflog ar y strwythur cyflogau newydd, byddwch yn cael llythyr manwl yn nodi sut y penderfynwyd ar y sgôr honno, unrhyw newidiadau eraill a allai effeithio arnoch (e.e. newidiadau i amodau a thelerau), a manylion y broses apelio.
Beth yw ystyr Modelu Cyflogau?
Dylunio strwythur cyflogau a graddfeydd newydd, ar sail canlyniadau'r ymarferiad Gwerthuso Swyddi, a fydd yn rhoi strwythur cyflogau unigryw i'r Awdurdod sy'n gweddu i anghenion y sefydliad. Mae angen iddo ymdrin â phob swydd yn deg a chyfiawn a darparu strwythur cyflogau ar gyfer yr awdurdod sy'n cydymffurfio â’r gofynion o ran cydraddoldeb ac yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yn dal i roi sylw i'r rhan hon o'r broses a bydd yn rhaid cael sylwadau gan y Tîm Rheoli Corfforaethol a'r Undebau Llafur.
Sut mae'r Cyngor wedi sicrhau bod y strwythur cyflogau a graddfeydd yn cynnig y tâl iawn ar gyfer y swydd?
Rydym wedi gweithio gydag awdurdodau lleol eraill a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gomisiynu arolygon ynghylch cyflogau swyddi yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat er mwyn sicrhau bod gennym y strwythur cyflogau iawn ar gyfer ein hawdurdod.
Beth yw ystyr Trefn yn ôl Sgôr?
Pan fydd yr holl swyddi wedi cael eu gwerthuso pennir eu sgôr o ran pwyntiau. Yna rhestrir yr holl swyddi a gafodd eu gwerthuso yn nhrefn eu sgôr gwerthuso swyddi.
Ai cyflogau sylfaenol yn unig sy'n cael eu hadolygu?
Nage, mae'r amodau a'r telerau'n cael eu hadolygu hefyd, fel rhan o Statws Unffurf, er mwyn sicrhau ein bod yn cysoni'r amodau ar gyfer yr holl staff y mae'r 'llyfr gwyrdd' yn berthnasol iddynt. Mae hyn yn cynnwys pethau megis cyfraddau goramser, cyfraddau aros galwad, ac unrhyw gyfraddau neu lwfansau ychwanegol eraill. Ni fydd popeth yn cael ei newid, ond ymdrinnir ag unrhyw anghysondebau presennol, er enghraifft bod rhai grwpiau o staff yn cael gwahanol gyfraddau tâl i rai eraill.
Beth yw ystyr y term 'cyflog sefydlog'?
Ystyr 'cyflog sefydlog' yw bod cyflog rhywun wedi ei bennu ar un pwynt sefydlog (e.e. ar bwynt 5 ar y golofn gyflogau) ac nid oes cyfle iddo/iddi symud i fyny'r raddfa tra bydd yn y swydd honno. Ar hyn o bryd mae cyflogau sefydlog yng Nghyngor Sir Caerfyrddin yn berthnasol i gyn-weithwyr llaw. O dan y strwythur cyflogau newydd bydd yr holl staff ar raddfeydd cynyddrannol, a fydd yn rhoi cyfle ichi symud i fyny'r raddfa'n flynyddol hyd nes cyrraedd pen uchaf y raddfa ar gyfer eich swydd.
Mae pobl yn sôn am le uwch ben - beth yw ystyr hyn?
Ystyr lle uwch ben yw nifer y cynyddrannau y gellir eu cyflawni cyn eich bod yn cyrraedd brig y raddfa. Er enghraifft, os yw eich graddfa'n pontio pwynt 19–23 ar y golofn gyflog a'ch bod yn cael eich penodi ar bwynt 19 mae’r lle uwch ben yn cyfateb i bedair cynyddran cyn eich bod yn cyrraedd brig y raddfa. Effaith yr hen strwythur graddfeydd oedd bod cyflog llawer o weithwyr wedi'i bennu ar un pwynt sefydlog ac nid oedd cyfle iddynt symud i fyny'r raddfa.
A fydd trefniadau diogelu ar gael os bydd fy swydd yn cael ei symud i raddfa is?
Mae'r mater hwn yn cael ei drafod â'r Undebau Llafur ar hyn o bryd, a byddwn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth ichi am hyn maes o law.
Os bydd fy swydd yn cael ei huwchraddio, a fyddaf yn cael ôl-daliadau?
Unwaith yn rhagor, mater i'w drafod â'r Undebau Llafur yw hwn, a byddwn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth ichi am hyn maes o law.
A fyddaf yn parhau i dderbyn tâl cydnabyddiaeth?
Bydd yr holl daliadau cydnabyddiaeth yn dod i ben pan roddir y strwythur cyflogau newydd ar waith. Os oeddech yn cael tâl cydnabyddiaeth mewn perthynas â newidiadau parhaol i'ch swydd, bydd y rhain wedi cael eu hystyried wrth bennu eich cyflog newydd ac o ganlyniad ni fyddwch yn derbyn tâl cydnabyddiaeth. Os oedd y tâl yr oeddech yn ei gael yn gysylltiedig â dyletswyddau dros dro ychwanegol neu oherwydd eich bod wedi derbyn rhagor o gyfrifoldeb dros dro, bydd angen ailwerthuso'r tâl ac fe all godi neu ostwng oherwydd y gallai gwerth y dyletswyddau / cyfrifoldebau ychwanegol fod wedi newid o dan y cynllun Gwerthuso Swyddi.
Beth sy'n digwydd os yw sgôr fy swydd yn anghywir?
Mae'r Penaethiaid Gwasanaeth a'r Penaethiaid Ysgolion wedi cael copi o'r adroddiadau Trefn yn ôl Sgôr i'w hadolygu ac i roi sylwadau arnynt. Os ydynt yn credu bod sgôr swydd yn anghywir byddant wedi rhoi gwybod i ni a byddwn ni wedi ailwerthuso'r swydd ar sail y wybodaeth newydd a roddwyd.
Beth os ydwyf am apelio?
Cytunwyd ar broses apelio dau gam, a bydd manylion amdani'n cael eu hanfon atoch gyda'ch graddfa a'ch cyflog newydd. Rydym yn gobeithio y gallwn ymdrin yn llwyddiannus â'r rhan fwyaf o'r apeliadau drwy gam anffurfiol (cam cyntaf) y broses. Fodd bynnag, os nad ydym yn credu y gallwn ymdrin ag apêl yn llwyddiannus drwy'r cam hwn, fe'ch gwahoddir i wrandawiad ffurfiol (yr ail gam) i gyflwyno eich cais.
Pwy fydd yn gwrando ar fy apêl?
Mae cam cyntaf y broses apêl yn ymarferiad pen-desg. Dim ond apeliadau na ellir eu datrys bryd hyn fydd yn mynd gerbron y panel. Cadeirir y panel gan Bennaeth Gwasanaeth neu Bennaeth Ysgol a bydd yn cynnwys aelodau o staff yr Is-adran Rheoli Pobl a Pherfformiad ynghyd â chynrychiolydd Undeb Llafur sydd oll wedi cael hyfforddiant ynghylch y cynllun. Bydd aelod o'r tîm Gwerthuso Swyddi hefyd yn bresennol yn yr apêl i roi cyngor technegol yn unig ar weithrediad y cynllun. Ni fydd yn cyfrannu at benderfyniadau'r panel.
Os yw'r apêl yn llwyddiannus a fydd y raddfa gyflog ddiwygiedig yn cael ei hôl-ddyddio?
Bydd, fe fydd yn cael ei hôl-ddyddio i'r dyddiad gweithredu neu i'ch dyddiad dechrau yn y swydd os yw'n fwy diweddar na'r dyddiad gweithredu.
Beth yw ystyr y graddfeydd arfaethedig mewn termau ariannol?
Ar ôl cadarnhau'r strwythur cyflogau a phennu'r gyllideb, rhoddir gwybod i'r staff beth yw eu graddfeydd a'u cyflogau newydd.
Os bydd graddfa swydd a gyllidir yn codi yn sgil Gwerthusiad Swydd, sut bydd y gost ychwanegol yn cael ei chyllido?
Penderfyniad i'r Cyfarwyddwr Adnoddau fydd hwn, ar ôl inni ddod i wybod a oes gennym unrhyw swyddi yn y categori hwn. Rhoddir gwybod maes o law i'r Penaethiaid Gwasanaethau a'r Penaethiaid Ysgolion y mae hyn yn effeithio arnynt.
Pam mai barn y staff am y cynigion a geisir yn hytrach na'u barn am y canlyniadau i unigolion?
Golyga hyn fod y broses o holi barn yn un deg, ar sail egwyddorion cyffredinol y cynigion. Yn ogystal, ni ellir penderfynu’n derfynol ar y canlyniadau unigol hyd nes y byddwn yn gwybod canlyniadau’r ymgynghori. Os cytunwn, o ganlyniad i ymgynghori â’r staff, i newid y cynigion, bydd y rhain yn effeithio ar ganlyniadau rhai unigolion.
Sut mae cael gwybodaeth am faterion nad ydynt wedi cael sylw yn y man hwn?
Cysylltwch â'ch rheolwr llinell neu gynrychiolydd eich undeb llafur, neu aelod o'r tîm Gwerthuso Swyddi. Mae'n bosibl na fyddwn yn gallu ateb eich holl gwestiynau gan fod llawer o agweddau ar y strwythur cyflogau newydd yn dal i gael sylw neu'n destun trafodaethau, ond fe wnawn ateb yr hyn a allwn.
Yr Aelodau o'r Tîm Gwerthuso Swyddi:
Sue Hampton Rheolwr Gwerthuso Swyddi 01267 246157
shampton@sirgar.gov.uk Ymholiadau ynghylch Rheoli'r Prosiect
Peter Jenkins Swyddog Gwerthuso Swyddi 01267 246136
pwjenkins@sirgar.gov.uk Ymholiadau cyffredinol ynghylch gwerthusiadau
Debra Osborne Swyddog Gwerthuso Swyddi 01267 246138
dosborne@sirgar.gov.uk Ymholiadau cyffredinol ynghylch gwerthusiadau
Eiry Thomas Cynorthwy-ydd Gwerthuso Swyddi 01267 246107
EiryThomas@sirgar.gov.uk Ymholiadau ynghylch y broses / cyngor cyffredinol
Llinos Jones Cynorthwy-ydd Gweinyddol 01267 246137
rllinosjones@sirgar.gov.uk Cyngor cyffredinol