English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Y Tîm 

Hwyluswyr Cyfathrebu Adrannol
Bydd gan Benaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Is-adrannol rôl hollbwysig yn y broses gyfathrebu ac ymgynghori yn eu meysydd is-adrannol.

Ar ben hynny, er mwyn sicrhau bod yr holl staff yn derbyn y newyddion diweddaraf yn gyson, yn gywir ac yn brydlon ynghylch amodau gwasanaeth y Cyd-gyngor Cenedlaethol ynghylch gweithredu’r strwythur cyflogau a graddfeydd newydd, awgrymwyd y dylai’r canlynol weithredu fel Hwyluswyr Cyfathrebu Adrannol:

Ann Clarke: Swyddog Cyswllt rhwng Swyddogion Adrannol a’r Grŵp Llywio Gwerthuso Swyddi a Statws Unffurf, Est 6167
Lindsey Evans: Cymorth i’r uchod
Gareth Miller: Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai, Est 2935
Jackie Lewis: Gwasanaethau Technegol, Est 5142
Nicola Hoare: Addysg a Phlant, trwy’r Tîm Rhwydwaith Cyfathrebu, sef:

Ian Rees, Llywodraethu a Chynhwysiad, Est 6447
Yvonne Pugh, Gwasanaethau Plant, Est 6546
Yvonne Cole, Gwasanaethau Busnes ac Arbenigo, Est 6503
Gwyneth Morgan, Gwella a Sgiliau, Est 6655
Suzanne Jordan, Gwella a Sgiliau, Est 6656
R Mark P Thomas, Datblygu Strategol, Est 6444
Simon Davies, Moderneiddio Ysgolion, Est 6471

Anna Jones: Adran y Prif Weithredwr, Est 6106
Avril Williams: Adfywio a Hamdden, Est 3212
Tracey Thomas: Adnoddau, Est 6202
Caroline Blackburn: Cynnal/cydgysylltu’r prif sesiynau briffio i staff
Ruth Lake: Cynnal y broses ymgynghori fewnol ar draws yr awdurdod
Debbie Williams: Cynnal cyfathrebu/cyswllt â’r wasg yn fewnol ac allanol

Rôl yr Hwyluswyr Cyfathrebu Adrannol
Mae angen y swyddogion a nodwyd i roi cymorth i’r Grŵp Llywio Gwerthuso Swyddi a Statws Unffurf, Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Is-adrannol gyda’r canlynol:
1. Cynnal gweithrediad y strategaeth gyfathrebu
2. Sicrhau bod dull adrannol o raeadru negeseuon cyfathrebu allweddol y grŵp llywio’n brydlon i bob gweithiwr.
3. Cynnal y gwaith o gydlynu trefniadau ymarferol megis llogi ystafelloedd, gweinyddiaeth ac ati ar gyfer digwyddiadau briffio adrannol pwysig, a chefnogi’r timau cyflwyno.
4. Sicrhau bod y grŵp llywio’n ymwybodol o holl sianeli cyfathrebu’r adran, y prif gysylltiadau ar gyfer eu defnyddio, terfynau amser dosbarthu ac ati.
5. Datblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r cynigion Gwerthuso Swyddi a Statws Unffurf newydd a gweithredu fel pwynt cyswllt cychwynnol yn yr Adrannau, ynghyd â rheolwyr llinell, ar gyfer ymholiadau gweithwyr.
6. Gweithredu fel cyswllt rhwng Adrannau a’r Grŵp Llywio Gwerthuso Swyddi ar faterion a phryderon na ellir eu rheoli ar lefel leol sy’n codi yn ystod gweithrediad.

Y Tîm Gwerthuso Swyddi

Sue Hampton: Rheolwr Gwerthuso Swyddi
SHampton@sirgar.gov.uk

Debra Osborne: Swyddog Gwerthuso Swyddi
DOsborne@sirgar.gov.uk

Eiry Thomas: Cynorthwy-ydd Gwerthuso Swyddi
EiryThomas@carmarthenshire.gov.uk

Llinos Jones: Cynorthwy-ydd Gwerthuso Swyddi
RLlinosJones@carmarthenshire.gov.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 27/3/2012