Sut byddaf i'n gwybod a yw’r adolygiad wedi effeithio ar fy nhelerau a'm hamodau o gwbl?
Mae'r llyfryn a roddwyd i chi yn rhestru'r prif delerau ac amodau sydd wedi cael eu newid o ganlyniad i'r adolygiad Statws Unffurf. Os nad yw unrhyw elfennau o'ch tâl y buoch yn eu derbyn yn y gorffennol wedi eu rhestru yn y llyfryn, cysylltwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf i gael cyngor ynghylch a fydd y taliad hwnnw'n parhau. Os na all eich rheolwr llinell helpu, cysylltwch â'r tîm Gwerthuso Swyddi am gyngor.
Mae fy swydd wedi newid ers i mi gael fy ngwerthuso. Fydd hynny wedi cael ei ystyried?
Mae Adnoddau Dynol wedi gweithio'n agos iawn gyda'ch rheolwyr yn ystod y broses hon i sicrhau bod y data sydd gennym yn gywir ac wedi ei ddiweddaru. Os yw AD wedi cael gwybod am y newid yn eich rôl, dylai hynny fod wedi cael ei ystyried. Fodd bynnag, os byddwch yn teimlo nad yw'r lefelau ffactor yn adlewyrchu'r swydd rydych chi'n ei gwneud, dylech sôn wrth eich rheolwr llinell am eich pryderon yn y lle cyntaf. Os yw proffil eich swydd yn adlewyrchu'r gwaith rydych chi'n ei wneud, ond rydych chi'n teimlo bod y lefelau ffactor yn anghywir, gallwch apelio yn erbyn y radd. Os yw proffil eich swydd yn anghywir, dylai eich rheolwr llinell anfon y Proffil Swydd diweddaraf atom ar gyfer ailraddio. Os bydd y radd yn codi o gwbl, caiff hynny ei ôl-ddyddio i ddyddiad gweithredol y Proffil Swydd. Ni fydd unrhyw Broffiliau Swyddi a gyflwynwyd ar ôl 25ain Gorffennaf, 2011 wedi cael eu gwerthuso, felly ni fydd eich gradd/cyflog yn rhoi ystyriaeth i unrhyw newidiadau y cawsom wybod amdanynt wedi'r dyddiad hwnnw. Byddwn yn cynnal gwerthusiad diwygiedig cyn gynted â phosibl, ac yn rhoi gwybod i chi beth yw eich gradd/cyflog newydd. Sylwer, hyd yn oed os oes gennych gwestiwn ynghylch eich gradd, neu os ydych yn mynd i gyflwyno apêl, y dylech serch hynny dderbyn y newidiadau i'ch telerau a’ch amodau erbyn 30ain Medi 2011.
Mae'r lwfans anghenion addysgol arbennig yn cael ei ddileu. Sut bydd cynorthwywyr addysgu sy'n gweithio gyda disgyblion AAA yn cael eu gwobrwyo?
Mae'r lefelau cyflog newydd ar gyfer cynorthwywyr addysgu yn rhoi ystyriaeth i'r amodau gwaith, sy'n cynnwys ffactorau i adlewyrchu gofynion emosiynol a chorfforol y swydd, yn ogystal â'r amgylchedd gwaith.
Beth os yw'r radd newydd ar gyfer swydd yn uwch na'r radd bresennol?
Os bydd aelod o staff yn canfod bod eu cyflog yn codi o ganlyniad i statws unffurf, bydd y newid yn dod i rym o'r dyddiad gweithredu, ac yn cael ei ôl-ddyddio i 1af Ebrill 2011.
Pa ran bydd rheolwyr yn ei chwarae yn gyffredinol hyd at y dyddiad gweithredu?
Cefnogi'r staff, ateb cwestiynau, a derbyn gwybodaeth gan uwch reolwyr.
Pam nad wyf fi wedi cael cais i lenwi holiadur Gwerthuso Swyddi?
Mae nifer o resymau posibl am hyn -
1) bod y swydd yn rhan o grŵp 'cyffredinol'. Mae hynny'n golygu bod un swydd wedi cael ei gwerthuso, a bod yr holl swyddi tebyg wedi cael eu paru â'r gwerthusiad hwnnw.
2) bod y swydd wedi cael ei gwerthuso cyn i chi gael eich penodi, felly mai rhywun arall lanwodd yr holiadur ar gyfer y swydd neu
3) bod y swydd wedi cael ei gwerthuso ar sail y Proffil Swydd.
Dyw fy rheolwr ddim wedi trafod fy ngradd na'm cyflog newydd gyda mi. Beth dylwn i wneud?
Siaradwch â'ch rheolwr llinell neu fel arall eich hyrwyddwr cyfathrebu adrannol (mae rhestr o'r rhain ar gael ar y Rhyngrwyd neu yn eich llyfryn Statws Unffurf) a gofynnwch am apwyntiad i drafod y cynigion a sut maent yn effeithio arnoch chi.
Pa wybodaeth ddefnyddiwyd i werthuso fy swydd?
Gwerthuswyd swyddi ar sail eich Proffil Swydd a/neu eich Holiadur Gwerthuso Swyddi. Os ydych yn ansicr a yw eich Proffil Swydd wedi cael ei ddiweddaru, cysylltwch â'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf, gan y dylai ef/hi allu cadarnhau pa Broffil Swydd gyflwynwyd i'w werthuso. Os yw eich proffil swydd wedi newid ers i'r swydd gael ei gwerthuso, dylai eich rheolwr llinell gyflwyno Proffil Swydd diwygiedig i'r tîm gwerthuso a bydd y swydd yn cael ei hailwerthuso. Bydd unrhyw newid i'r radd newydd yn cael ei ôl-ddyddio i'r dyddiad gweithredu.
Sut mae'r newidiadau i'r telerau ac amodau yn effeithio arnaf fi?
Siaradwch â'ch rheolwr llinell a ddylai allu esbonio sut bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi.
Os yw staff yn gweithio yn y nos, oes ganddyn nhw yr un proffil rôl â chydweithwyr sy'n gweithio yn ystod y dydd?
Os yw eich rôl yr un fath, dylai'r proffil swydd fod yr un fath.
Fydd yr holl staff sydd â'r un proffil swydd yn derbyn yr un tâl?
Os yw'r Proffiliau Swyddi yr un fath, bydd sgôr a gradd y swydd yr un fath. Gall yr union gyfraddau cyflog amrywio am y rhesymau canlynol
Telir ar raddfeydd cynyddrannol, felly gellir talu pobl sy'n cyflawni'r un rôl ar wahanol bwyntiau ar y raddfa.
Os derbynnir taliadau ychwanegol dros ben y tâl sylfaenol, gellir eich cymathu ar bwynt uwch ar y raddfa os gwnaethoch gais am gymathiad uwch (ar ôl derbyn COT3 wedi ei lofnodi).
Gellir cymhwyso unrhyw hawl i dderbyn taliadau ychwanegol yn unol â'r telerau ac amodau cyflogaeth i'r rôl lle mae'r patrwm gwaith yn adlewyrchu hynny.
Beth yw ystyr y term staff 'llyfr gwyrdd'?
Cytundeb cenedlaethol ar dâl ac amodau gwasanaeth ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol yw'r 'llyfr gwyrdd'. Mae staff y 'llyfr gwyrdd' yn cynnwys gweithwyr gweinyddol, proffesiynol, technegol, clercol a rhai a fu gynt ar raddau llafurio. Nid yw'n cynnwys unrhyw staff a gynrychiolir gan gorff cyd-drafod cenedlaethol ar wahân, megis athrawon, ond mae yn cynnwys staff cymorth mewn ysgolion, megis cynorthwywyr addysgu.
Beth yw dyddiad gweithredu Statws Unffurf?
Y dyddiad gweithredu yw 1af Ebrill 2011. Bydd y gyflogres yn newid ar 1af Ebrill 2012.
Oes bwlch cyflog rhwng y ddwy ryw o hyd?
Mae statws unffurf wedi lleihau'r bwlch cyflog rhwng gweithwyr gwryw a benyw yn y cyngor sir. Mae bwlch cyflog yn dal i fodoli, ond achosir hynny gan ffactorau y tu allan i statws unffurf, er enghraifft, mwy o fenywod yn gweithio'n rhan amser mewn rolau gradd is.
Ydy'r lwfansau teithio wedi newid?
Ydynt, bellach mae gennym gyfraddau milltiroedd newydd wedi eu seilio ar gyfraddau Refeniw a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). I gael manylion llawn, gweler eich llyfryn telerau ac amodau
Os byddaf i'n absennol o'r gwaith oherwydd Salwch, pa effaith fydd hynny'n ei chael arnaf i?
Bydd statws unffurf yn berthnasol, a chewch eich cymathu i radd newydd.
Rwyf wedi gadael yr Awdurdod/fy swydd yn ddiweddar. Oes gen i hawl i dderbyn ôl-daliad o hyd?
Nac oes, derbynnir taliadau ar gyfer y swydd mae'r gweithiwr ynddi ar hyn o bryd yn unig.
A fyddaf yn gallu gweld y proffil swydd a werthuswyd?
Dylai fod gennych gopi o'ch proffil swydd eisoes. Fodd bynnag, os nad ydych yn gallu dod o hyd i'ch proffil swydd neu os yw wedi cael ei newid yn ddiweddar ac rydych yn ansicr pa fersiwn ohono a ddefnyddiwyd, cysylltwch â'ch rheolwr llinell. Bydd eich rheolwr llinell yn gallu cadarnhau dyddiad y proffil swydd a ddefnyddiwyd. Os bydd angen copi ohono arnoch, gall eich rheolwr llinell ei gael gan eich Pennaeth Gwasanaeth neu eich Cyfarwyddwr.
Beth yw 'lwfans grymoedd y farchnad'?
Taliad ar ben cyflog a buddion eraill ar gyfer swydd benodol, neu grŵp o swyddi. Bwriad lwfansau grym y farchnad yw goresgyn anawsterau recriwtio a chadw penodol (ceir manylion y Polisi llawn ar gyfer Lwfans Grymoedd y Farchnad ar y fewnrwyd). Dim ond yn achlysurol iawn y'u defnyddir.
Oedd y penderfyniad yn cael ei seilio’n llwyr ar y proffiliau/disgrifiadau swyddi?
Roedd y gwerthusiadau’n cael eu seilio ar yr holl wybodaeth a gyflwynwyd a oedd yn berthnasol i’r swydd – proffiliau swyddi ac, os oedd ar gael, yr holiadur.
Pryder ynglŷn â diwrnodau i ffwrdd o’r gwaith sydd wedi cael eu hailddynodi – beth sy’n digwydd os bydd diwrnod i ffwrdd yn disgyn ar Ŵyl Banc – mae diwrnodau yn lle oriau a weithiwyd wedi diflannu
Byddai gan weithwyr rhan-amser a’r rhai sy’n gweithio shifftiau hawl i lwfans gŵyl banc pro-rata seiliedig ar yr oriau contract – mae oriau’r lwfans i gael eu cymryd ar amser y cytunir arno drwy drafodaeth gyda’r rheolwr llinell. Nid yw’r hawl Gŵyl Banc yn denu cyfraddau uwch. Byddai unrhyw weithiwr sy’n gweithio ar ŵyl banc yn cael tâl amser dwbl (cynnydd 100%) fel cydnabyddiaeth lawn am bob awr a weithiwyd.
Staff sy’n pryderu iddynt gael gwerthusiad diweddar, Gorffennaf 2010, a arweiniodd at gynnydd yn eu gradd ac yna’r gwerthusiad cyfredol sy’n dangos gostyngiad. Pam mae hyn wedi digwydd ac a allant weld sgorau gwerthusiad Gorffennaf 2010?
Os yw’r cwestiwn yn cyfeirio at newid sgôr o dan gynllun GLPC, fel sylw cyffredinol yr hyn y gall y tîm Gwerthuso Swyddi ei gadarnhau yw, hyd at yr adeg y cafodd y sgorau eu rhyddhau i’r staff, lle mae’r sgorau wedi mynd i fyny neu’i lawr ar sail y wybodaeth a gafodd ei darparu gan Reolwyr Llinell a’r Pennaeth Gwasanaeth, roedd y swyddi’n cael eu safoni’n barhaus. Os oes gan weithwyr bryder ynglŷn â’r lefelau a roddwyd iddynt, bydd angen iddynt drafod hyn gyda’u Rheolwr Llinell a’r Pennaeth Gwasanaeth, gyda golwg ar lunio Apêl. Ni fydd hawl yn cael ei rhoi i weld y sgorau blaenorol lle nad oeddent wedi cael eu cadarnhau i’r swydd y mae’r gweithiwr ynddi.
Os yw’r cwestiwn yn cyfeirio at radd dros dro sy’n wahanol i’r radd newydd, mae’r gwahaniaeth i’w briodoli i’r ffaith fod yr hen system raddio yn defnyddio cynllun Gwerthuso Swyddi gwahanol i’r system raddio newydd. Mae cynllun GLPC a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r graddau newydd yn gynllun gwerthuso swyddi dadansoddol a gynlluniwyd yn bwrpasol ar gyfer cyrff cyhoeddus mawr lle ceir amrywiaeth eang o swyddi. Mae’n bodloni’r ddeddfwriaeth cydraddoldeb gyfredol ac mae wedi cael ei gymeradwyo gan yr Undebau Llafur.
Os oes disgwyliadau diwydiannol cyffredin yn cael eu rhagdybio yn y gwasanaethau ac nad yw hynny felly’n cael ei archwilio yn y Proffiliau Swyddi ac nad ymhelaethir arno, er enghraifft cyfrifoldeb i ddefnyddio cyfarpar arbenigol neu i weithio mewn tîm cyfnewidiol i alluogi’r swydd, gan fod hynny’n hanfodol i natur y swydd, a fyddai hynny wedi cael ei sylweddoli heb gyfweliadau na holiaduron?
Mae’n anodd ateb – ni ellir gwneud unrhyw ragdybiaeth os cafodd/na chafodd cyfrifoldebau eu cynnwys yn y proffil swydd. Y cyngor fyddai edrych ar y proffil swydd a werthuswyd ac edrych ar y lefelau ffactor a ddyfarnwyd – bydd angen trafod ymhellach gyda’r Rheolwr Llinell.
Aelodau staff ar raddau uwch neu raddau pen swyddog sydd, oherwydd natur eu gwaith a’r disgwyliadau, yn gweithio oriau di-dâl yn rheolaidd, yn mynd i gyfarfodydd min nos neu benwythnos a bod gofyn iddynt fynd i ddigwyddiadau a chael eu gweld mewn digwyddiadau ac ati. A bod yn fanwl gywir nid yw hyn yn waith goramser ond, yn y telerau a’r amodau unffurf a’r ‘gwastatáu’ cyffredinol ar raddau gwahaniaethol, a fydd yr angen hwn am ymrwymiad ychwanegol yn cael ei gydnabod?
Mae’r telerau a’r amodau newydd yn amlinellu’r gydnabyddiaeth i weithwyr sy’n cael eu hawdurdodi gan eu rheolwr i weithio oriau ychwanegol.
Os yw aelod staff ar rota weithiau i gyflenwi ar y Sadwrn, er enghraifft i gyflenwi dros gyfnodau gwyliau, i fod yn bresennol i oruchwylio digwyddiadau pwysig ac ati, ond nad yw’n ddigon i warantu ychwanegiad % at ei gyflog, a fydd cydnabyddiaeth o ryw fath ynteu a cheir un cyfnod i ffwrdd o’r gwaith yn lle hynny?
Bydd ychwanegiad o 8% yn cael ei dalu i’r gweithwyr hynny sy’n gweithio’n rheolaidd ar y penwythnos (isafswm o 2 ddiwrnod/shifft bob 4 wythnos). Os nad yw gweithio afreolaidd ar y Sadwrn yn oramser ond ei fod yn cael ei gynnwys yn y patrwm shifftiau yn achlysurol, ni fydd ychwanegiadau pellach yn cael eu talu.
A fyddai’r rhai sydd ar gyflogau wedi’u diogelu yn cael taliadau ychwanegol am waith penwythnos neu waith nos yn ystod y cyfnod diogelu?
I weithwyr y mae cyfanswm eu cyflog yn gostwng – Bydd taliad gweithredu’n cael ei wneud (lle mae hynny’n berthnasol) sy’n cyfateb i hyd at 12 mis o’r gwahaniaeth mewn cyflog rhwng y pwynt cymathu ar y raddfa newydd a’r enillion cyn gweithredu (y cyflog sylfaenol ynghyd â’r elfennau tâl a nodir yn Atodiad A – a enillwyd yn 2010/11). Bydd y cyflog newydd wedi’i gymhathu a’r telerau a’r amodau newydd yn weithredol wedyn o 1af Ebrill 2012. Felly bydd y taliadau a wneir am waith penwythnos a gwaith nos fel a bennir yn y telerau a’r amodau newydd.
Oriau yn lle amser a weithiwyd (TOIL): Ydy’r trefniant hwn wedi dod i ben? Os mai o ddydd Llun i ddydd Gwener yw’r wythnos waith 37 awr arferol, a bod gofyn iddynt weithio’r tu hwnt i’r cyfnod oriau gweithio hyblyg yn yr wythnos neu mewn digwyddiadau ychwanegol ar y Sadwrn/Sul – a yw hyn bellach yn cael ei drin fel goramser?
I weithwyr sy’n cael eu hawdurdodi gan eu rheolwr i weithio oriau ychwanegol y tu hwnt i’r wythnos waith 37 awr neu y tu hwnt i’r patrwm gweithio dan gontract sy’n rhoi wythnos waith 37 awr ar gyfartaledd (e.e. oriau rota/ar sail blwyddyn), bydd ganddynt hawl i gyfradd goramser amser a hanner ar eu cyflog/cyfradd yr awr sylfaenol, h.y. ychwanegiad 50% ar yr holl oriau goramser a weithir.
Dylai rheolwyr archwilio pob ffordd arall bosib cyn caniatáu goramser. Pe bai’r gweithiwr yn gofyn am TOIL, bydd yn ofynnol i’r Rheolwr ganiatáu hyn, ar sail yr union oriau a weithiwyd – TOIL ar yr amser a weithiwyd. Er enghraifft, os bydd gweithiwr yn gweithio 8 awr ychwanegol o oramser caiff TOIL ei ganiatáu ar y gyfradd hon (h.y. ni fydd 50% yn cael ei ychwanegu at gyfanswm yr oriau).
Eglurhad o’r Strwythur Cyflogau Newydd – A fydd staff sydd â llai na 37 awr o oriau dan gontract yn cael tâl am weithio ar benwythnos neu oes rhaid iddynt weithio 37 awr i gael y tâl hwnnw?
Mae gan weithwyr rhan-amser hawl i’r 8% cyhyd â’u bod ar rota i weithio 2 shifft dydd penwythnos mewn cyfnod o 4 wythnos. Am oriau y tu hwnt i’r wythnos 37 awr y caiff taliadau goramser eu talu.
Mae gweithwyr ar gyflog wedi’i ddiogelu yn dal i dalu cyfraniadau pensiwn ar yr un lefel. Ydy’r cyflogwr yn dal i dalu ar y gyfradd uwch?
Ydy, mae’r swm a delir mewn cyfraniadau pensiwn yn briodol i’r band pensiwn i gyflogau pensiynadwy. Pan fydd cyflog yn newid i fand pensiwn gwahanol byddai’r gyfradd gyfrannu hefyd yn cael ei haddasu i’r band pensiwn priodol.
O pryd y daw’r 2 ddiwrnod ychwanegol o Wyliau Blynyddol i rym a chofio fod Gwyliau Blynyddol yn cael eu cyfrifo o ben-blwyddi?
I’r holl staff presennol, mae’n debygol y deuir i gytundeb i ychwanegu’r ddau ddiwrnod statudol at hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o fis Ebrill 2012. Byddai hynny pro-rata i weithwyr rhan-amser.
I’r holl aelodau staff eraill sy’n dechrau ar y telerau a’r amodau Statws Unffurf o’r 1af Medi 2011, byddai’r gwyliau blynyddol eisoes yn cynnwys y ddau ddiwrnod ychwanegol. Bydd angen i reolwyr a gweithwyr fod yn ofalus i sicrhau fod staff yn cymryd eu gwyliau ar adegau priodol pan fydd gwasanaethau ar gau (h.y. gwyliau banc statudol presennol).
Bydd angen ailgyfrifo hawl gwyliau blynyddol gweithwyr ar sail pro rata yn dibynnu ar eu pen-blwydd.