Y wybodaeth a ddarperir ar ffurflen gais yw'r unig wybodaeth a ddefnyddir yn y broses o lunio rhestr fer.
Mae'n holl bwysig felly eich bod yn dilyn y nodiadau cyfarwyddyd isod wrth lenwi'r ffurflen gais. Bydd hyn yn sicrhau bod yr holl wybodaeth ar gael i benderfynu ai eich cynnwys ar y rhestr fer am gyfweliad neu beidio.
Bydd llunio rhestr fer yn golygu asesu'r manylion a ddarperir ar y ffurflen gais yn erbyn y meini prawf a amlinellir yn y Fanyleb Person a ddarperir.
Derbynnir ceisiadau ar ffurfiau eraill pan fo ymgeisydd yn cael trafferth cwblhau'r ffurflen arferol oherwydd anabledd. Os bydd arnoch angen ffurflen gais ar ffurf arall, e.e. copi print bras, dylech gysylltu â'r adran a nodir ar gefn y ffurflen hon.