English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Iaith Gymraeg 

 

Y Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yma yn Sir Gaerfyrddin ceir y nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg dros Gymru gyfan.

Learning Welsh

Dengys Cyfrifiad 2001 fod 83,802 o boblogaeth y Sir yn medru’r Gymraeg, a cheir manylion pellach drwy’r modiwl ystadegau ar ein gwefan.

Mae Cyfrifiad 2001 yn ffynhonnell allweddol o wybodaeth am y Gymraeg, nid yn unig ar lefel genedlaethol, ond ar lefel sirol. Cynyddodd y nifer o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru o 509,098 ym 1991 i 575,730 yn 2001.

Er y cynnydd yng Nghymru, gostyngiad bu i’r canrannau yng nghadarnleoedd y Gymraeg, gan gynnwys Sir Gâr wrth i’r niferoedd ostwng o 89,213 yn 1991 i 83,802 yn 2001.

Mae’n rhaid nodi fod cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg ymysg pobl ifanc, yn enwedig ymhlith oedrannau pump i bymtheg. Mae’n amlwg fod y datblygiadau cyson yn narpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog wedi cael effaith bendant ar y niferoedd o blant oed ysgol sy’n gallu siarad Cymraeg.

Mae'r Cyngor yn ymfalchïo yn y ffaith fod  y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn helaeth yn y Sir a'i bod ar gynnydd mewn sawl ardal - gyda mwy o blant, pobl ifanc a phobl hyn yn dysgu ac yn defnyddio'r iaith. Mae'r Cyngor wedi'i ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo'r iaith ac annog y defnydd ohoni trwy'r sir gyfan.

Mae'r Cyngor yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a ddisgrifiwyd yn 2010 yn ei Strategaeth ar gyfer y Gymraeg 'Iaith Fyw: Iaith Byw. Fel noda’r ddogfen, mae’r "Gymraeg yn rhan allweddol o hunaniaeth ddiwylliannol a chymeriad Cymru. Mae'n helpu i'n diffinio ni fel cenedl - yn ein cymunedau, yn ein perthynas â ffrindiau a theuluoedd ac fel unigolion."

Gan ein bod fel Cyngor yn ymrwymedig i adfer yr iaith Gymraeg yn y Sir, yr ydym wedi penodi aelod arbennig o'r Bwrdd Gweithredol i fod yn gyfrifol am ddatblygu'r iaith Gymraeg sef y Cynghorydd Clive Scourfield. I'w gynghori ar y ffordd ymlaen mae yna Banel Ymgynghorol yr Iaith Gymraeg wedi'i sefydlu yn ogystal.

Cynllun Iaith Gymraeg 2011-2014

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu’r egwyddor y bydd yn trin y Gymraeg a’r Saesneg ar y sail eu bod nhw’n gyfartal.  Mae’r Cynllun Iaith yn disgrifio sut y bydd y Cyngor yn gweithredu’r egwyddor honno wrth gynnig gwasanaethau i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin.

Mae’r Cyngor yn cydnabod:

• y gall ein cwsmeriaid fynegi eu barn a’u hanghenion yn well yn eu dewis iaith;
• mai mater o arfer da yn hytrach na goddefgarwch yw eu galluogi i ddefnyddio’u dewis iaith;
• gall gwadu’r hawl i ddefnyddio’u dewis iaith eu rhoi mewn sefyllfa anfanteisiol.

Felly, bydd y Cyngor yn cynnig i’r cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin yr hawl i ddewis pa iaith i’w defnyddio wrth ddelio â’r Cyngor.
 
Mae'n ofynnol, yn ôl Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fabwysiadu a gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg.

Dylai'r cynllun ddisgrifio sut y bydd y corff cyhoeddus yn trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau a chyfathrebu gyda'r cyhoedd a dylai gynnwys adrannau ar y materion canlynol:

• Cyhoeddi dogfennau dwyieithog;
• Cynnal delwedd gorfforaethol ddwyieithog;
• Hyrwyddo'r defnyddio'r Gymraeg mewn cyfarfodydd cyhoeddus;
• Ateb y ffôn yn ddwyieithog; 
• Gohebu yn ddwyieithog gyda'r cyhoedd;
• Sicrhau bod sefydliadau trydydd parti yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg;
• Darparu gwasanaethau dwyieithog; 
• Prif ffrydio'r Gymraeg i bolisïau a gwasanaethau.

Nod y Cyngor yw:

• Meithrin dwyieithrwydd ar draws y Cyngor ac ym mhob cwr o Sir Gaerfyrddin;
• Galluogi pawb sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor, neu’n cyfrannu at y broses ddemocrataidd, i wneud hynny trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl eu dewis personol;
• Gwella safon y gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws yr adrannau;
• Annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ym mywyd yr ardal.  Trwy hynny, bydd y Cyngor yn cyfrannu at yr ymgyrch i adfywio’r Gymraeg ar draws Cymru yn unol ag agenda strategol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
• Gofalu bod holl bolisïau, strategaethau, prosiectau a phartneriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo defnyddio’r Gymraeg ac yn annog pobl i’w defnyddio’n amlach;
• Helpu pob unigolyn a sefydliad ar draws Sir Gaerfyrddin i ddefnyddio’r Gymraeg;
• Datblygu gallu disgyblion ysgol a myfyrwyr o bob oedran i fod yn gadarn ddwyieithog ac yn llythrennog yn y ddwy iaith, er mwyn mynd yn aelodau cyflawn o’r gymuned ddwyieithog y maen nhw’n byw ynddi;
• Codi hyder a gwella sgiliau dwyieithog staff, cynghorwyr a thrigolion y sir;
• Datblygu delwedd fodern a deinamig i’r sir gyfan, sy’n parchu ei threftadaeth ac yn hyrwyddo’r Gymraeg

Er mwyn gweld Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Sir Gaerfyrddin 2011 – 2014 cliciwch ar y ddogfen a welir ar frig y dudalen ar yr ochor dde.
Mae’n ofynnol bod y Cyngor Sir yn llunio Adroddiad Blynyddol i gyd fynd gyda gweithrediad y Cynllun Iaith er mwyn cadarnhau cydymffurfiaeth ac i adrodd ar berfformiad. Ewch i frig y dudalen ar yr ochor dde i weld yr Adroddiad Blynyddol.

Datblygiadau Cenedlaethol

Cyhoeddwyd y Strategaeth ar gyfer y Gymraeg ‘Iaith Fyw: Iaith Byw’ fel dogfen ymgynghorol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ym mis Rhagfyr 2010. Mae’r strategaeth yn adlewyrchu gweledigaeth y Llywodraeth sy’n benderfynol o weld y Gymraeg yn ffynnu. Mae’r strategaeth yn adeiladu ar y weledigaeth a amlinellwyd yn Iaith pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog a gyhoeddwyd yn 2003.

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ddyfodol yr iaith Gymraeg ac mae wedi cymeradwyo Mesur Iaith Gymraeg newydd yn 2011 sy’n
• Cadarnhau statws swyddogol yr iaith Gymraeg;
• Creu system newydd i roi dyletswydd ar gyrff i ddarparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
• Creu Comisiynydd y Gymraeg newydd a chanddo bwerau cryf i orfodi cydymffurfiaeth, er mwyn diogelu hawliau siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
• Sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg newydd;
• Rhoi’r hawl i unigolion a chyrff i apelio yn erbyn penderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau trwy’r Gymraeg;
• Creu Cyngor Partneriaeth y Gymraeg newydd i gynghori’r Llywodraeth ar effaith ei pholisïau ar y Gymraeg;
• Caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio’n swyddogol i achosion lle gwelir ymgais i amharu ar ryddid unigolion i siarad Cymraeg gyda’i gilydd.

 

Tudalen wedi ei diweddaru ar 18/5/2011