A wyddech chi...
- yn 2007, roedd 726 anaf sylweddol yn y gweithle yn Sir Gâr .
- mae'r nifer o anafiadau marwol a sylweddol mewn cwmnïau sy'n cyflogi llai na 50 o weithwyr (cwmnïau bach) dros ddwywaith y nifer mewn cwmnïau sy'n cyflogi dros 1000 o bobl.
- Fe ddigwyddodd tua 60% o anafiadau marwol i weithwyr mewn swyddi adeiladu, trafnidiaeth a storio, ac mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota.
- llithro a baglu, sy'n aml yn arwain at dorri esgyrn, yw achos pennaf digwyddiadau sylweddol. Maen nhw'n gyfrifol am 42% o anafiadau sylweddol i weithwyr (sectorau awdurdod lleol) a hanner yr holl anafiadau nad ydynt yn rhai marwol i aelodau'r cyhoedd.
- Amcangyfrifir bod afiechyd sy'n gysylltiedig â straen yn gyfrifol am tua 20% o achosion o afiechyd galwedigaethol a adroddwyd (tua 500,000), gyda mwy o achosion yn codi bob blwyddyn.
- Amcangyfrifir bod 1.2 miliwn o bobl yn dioddef o anhwylderau cyhyrysgerbydol (fel poen cefn ac anafiadau straen ailadroddus) oherwydd eu gwaith. Collir 9.9 miliwn o ddiwrnodau gwaith oherwydd anhwylderau cyhyrysgerbydol sy'n gysylltiedig â gwaith (WRMSD).
- Amcangyfrifir y byddai modd atal 70 y cant o ddamweiniau yn y gweithle petai cyflogwyr yn cyflwyno mesurau rheoli diogelwch iawn. (www.rospa.com)
Roedd datganiad strategaeth y Llywodraeth Revitalising Health and Safety, a lansiwyd ym
Mehefin 2000, yn gosod targedau cenedlaethol ar gyfer gwella perfformiad iechyd a diogelwch - www.hse.gov.uk/revitalising/strategy.pdf
Am fwy o wybodaeth ar atal damweiniau yn y gweithle, cliciwch ar y dolenni isod: