Mae data Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru ac Ysbyty Tywysog Philip yn dangos, ar gyfer 2007, bod 1331 o blant dan 5 wedi mynychu DaAB:
- Syrthio oedd yr achos mwyaf cyffredin ar gyfer anaf
- Rhwygiadau (briwiau) oedd yr ail reswm mwyaf cyffredin
- Roedd amheuaeth o wenwyno anfwriadol wedi ei rhannau'n gyfartal rhwng cynnyrch y cartref a meddyginiaethau
Ceir y mwyafrif helaeth o anafiadau yn y cartref, ac o'i gwmpas, oherwydd dyma ble mae'r grŵp oedran yma'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser.
Felly, mae camau gweithredu lleol ar gyfer y grŵp oedran yma'n cael eu ffocysu ar ddiogelwch yn y cartref, ac mae gwaith wedi dechrau i ddatblygu fforwm lleol i gydlynu'r broses o ddatblygu a gweithredu cynllun gweithredu lleol.
Mae camau syml y gallwch eu cymryd yn cynnwys:
- giatiau grisiau ar frig y grisiau ac ar y gwaelod
- sgriniau tân sefydlog i bob tân
- teclynnau cyfyngu ffenestri
- larymau mwg - www.mawwfire.gov.uk
- cypyrddau y gellir eu cloi ar gyfer meddyginiaethau a chynnyrch glanhau'r cartref
- defnyddio harnais mewn cadeiriau uchel ac offer eraill
- osgoi'r defnydd o gerbydau cerdded i fabanod
Am fwy o wybodaeth ynghylch atal damweiniau, cliciwch ar y dolenni isod:
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau - www.rospa.com
Yr Ymddiriedolaeth er Atal Damweiniau Ymhlith Plant - www.capt.org.uk
Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau - www.capic.org.uk