English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 16/12/2008
Diogelwch i Bobl Dros 65 

Yn Sir Gâr cafwyd 3,265 o achosion yn DaAB o fewn y cyfnod o ddeuddeg mis rhwng Hydref 2005 a Medi 2006, o ganlyniad i bobl dros 60 yn baglu.

Mae llithro, baglu a syrthio yn faich sylweddol ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Trwy ddefnyddio'r egwyddor bod 30% o bobl dros 65 a 50% o bobl dros 85 yn syrthio bob blwyddyn, dyma fyddai'r rhagfynegiad gwaelodlin ar gyfer syrthiadau ymhlith henoed Sir Gâr:

  • Dros 65 - 10,437 achos o syrthio
  • Dros 85 - 2,516 achos o syrthio gan ddenu 3,265 presenoldeb mewn DaAB rhwng  Hydref 2005 a Medi 2006. (Strategaeth Syrthio a Thorri i Bobl Hŷn 2008 - 2011)

Yr hyn y gallwch chi ei wneud

Dyma rai newidiadau syml i sicrhau bod eich cartref yn fwy diogel:

  • rheiliau llaw ychwanegol ar y grisiau a chanllawiau bach mewn ystafelloedd ymolchi (www.careandrepair.org.uk)
  • larymau mwg www.mawwfire.gov.uk
  • teclynnau canfod carbon monocsid
  • goleuo da
  • y defnydd o dechnoleg gynorthwyol (dolen at CSG)

Mae camau gweithredu eraill a allai ostwng y perygl o syrthio yn cynnwys:

Am fwy o wybodaeth ynghylch cyngor ar ddiogelwch ac iechyd i bobl dros 65, cliciwch ar y dolenni isod;

  • Mae Age Concern Cymru yn cynnig help a chyngor ar bob agwedd ar fywyd, gan gynnwys Heneiddio’n Dda. (www.accymru.org.uk)
  • Mae Gofal a Thrwsio'n cynnig gwasanaethau sy'n sicrhau bod pobl hŷn yn cael cartrefi sy’n ddiogel ac yn addas i'w hanghenion. (www.careandrepair.org.uk)
    Mae Help the Aged yn cynnig help a chyngor i bobl hŷn (www.helptheaged.org.uk)