Pam mae angen yr archwiliad hwn arnaf fi?
Bydd yr archwiliad iechyd RHAD AC AM DDIM mewn perthynas â chlefydau cardiofasgwlar o gymorth i leihau'r posibilrwydd y byddwch yn datblygu problemau iechyd yn y dyfodol a bydd yn eich galluogi i gymryd y camau angenrheidiol i gadw'n iach neu wella eich iechyd.
Onid yw'r cyflyrau hyn yn rhai teuluol?
Os oes hanes teuluol o glefyd y galon, strôc, diabetes math 2 neu glefyd yr arennau, efallai y bydd hynny'n cynyddu eich risg chi. Gall gweithredu nawr fod o gymorth i chi osgoi datblygu'r cyflyrau hyn eich hunan.
A fydd pawb yn cael yr archwiliad hwn?
Na. Dim ond i staff dros 40 oed nad ydynt eisoes yn cael triniaeth ar gyfer clefyd cardiofasgwlar, y mae'r archwiliadau hyn ar gael. Dim ond i staff sy'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin i Corus, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin y mae ar gael.
I gael rhagor o wybodaeth am glefydau cardiofasgwlar, ymwelwch â gwefannau:
Sefydliad Prydeinig y Galon www.bhf.org.uk
Diabetes UK www.diabetes.org.uk
Her Iechyd Cymru http://wales.gov.uk/hcwsubsite/healthchallenge/?lang=cy