English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 03/8/2009
Cadw'n Sionc 

Yn ôl yr ystadegau, rydyn ni'n symud llai wrth inni heneiddio.   Wrth inni heneiddio rydyn ni'n mynd yn ddifater ynghylch gwneud ymarfer corff – ar adeg pan mae'n arbennig o bwysig inni gynnal y momentwm.  Ac os yw'n wir nad yw henaint yn dod ei hunan, yna trwy wneud ymarfer corff yn rheolaidd byddwn yn lleihau cymaint â phosibl ar yr hyn sy'n dod gyda henaint.

Yn aml bydd pobl yn cymysgu diffyg ffitrwydd ag arwyddion o ‘dynnu mlaen’ ac felly'n dechrau arafu. Efallai bod hyn yn ymddangos fel y peth naturiol i'w wneud, ond mae rhoi eich traed lan wrth ichi heneiddio yn eich rhoi ar y llethr llithrig sy'n arwain at ddibyniaeth a salwch.

Mae'r neges yn syml - cadwch i fynd! 

Drwy gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn rheolaidd, byddwch yn cael y manteision canlynol:

Eich calon/ysgyfaint yn gweithio'n well
Cadw'ch pwysau'n iach
Cyhyrau ac esgyrn cryfach
Mwy hyblyg, mwy o gydbwysedd ac yn cydsymud yn well
Parhau i symud a bod yn annibynnol
Llai o straen, cysgu'n well
Ymdeimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth   

Faint o ymarfer corff sydd ei angen arnom?

Drwy wneud ymarfer corff am hanner awr unwaith neu ddwywaith yr wythnos byddwn yn cadw'n annibynnol 
Bydd dwy awr a hanner yn unig o ymarfer cymedrol bob wythnos yn ein cadw'n gwbl iach.

Yn ogystal, mae pob un ohonom angen o leiaf awr y dydd yn potsian o gwmpas y tŷ a'r ardd, a gorau oll os gallwn fynd am dro i'r siopau, er mwyn cynnal lefel sylfaenol o ffitrwydd.

Yn Sir Gaerfyrddin mae gennym gynlluniau sy'n cael pobl hŷn i gymryd diddordeb mewn ymarfer corff megis:

Step with Confidence - ymarfer corff arbenigol ar gyfer pobl hŷn, sy'n anelu at eich helpu chi i gadw'n gadarn ar eich traed, cadw'n gryf a theimlo'n hyderus.  I gael mwy o wybodaeth, ffoniwch 01554 747500.

Bywiogi – Mae'r cynllun Bywiogi yn ceisio lleihau nifer yr oedolion sydd mewn perygl o gael Clefyd Coronaidd y Galon. Drwy weithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â phractisiau Meddygon Teulu ac amryw o weithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd, gallwn dargedu unigolion penodol y mae dwy neu ragor o'r elfennau sy'n risg o ran Clefyd Coronaidd y Galon yn berthnasol iddynt a'u cefnogi drwy raglen o ymarferion corff sy'n cael eu goruchwylio, sy'n briodol ac sy'n rhoi mwynhad.

Bydd eich meddyg yn gwybod os ydych yn gymwys i fynd ar y cynllun, felly'r cam cyntaf yw gofyn i'ch meddyg neu drafod ag ef/hi i wybod a fyddai'n briodol eich atgyfeirio chi.

Bydd eich meddyg yn gwybod os ydych yn gymwys i fynd ar y cynllun, felly'r cam cyntaf yw gofyn i'ch meddyg neu drafod ag ef/hi i wybod a fyddai'n briodol eich atgyfeirio chi.

Os ydych dros 60 oed gallwch nofio am ddim ym mhob un o byllau nofio Cyngor Sir Caerfyrddin.  Y rhain yw Canolfan Hamdden Llanelli, Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Pwll Llanymddyfri neu Bwll Castellnewydd Emlyn.  Bydd angen ichi gofrestru a dangos prawf o'ch oedran i gael cerdyn aelodaeth ac yna gallwch nofio ar unrhyw adeg yn dibynnu ar y rhaglen.