English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 06/1/2010
Bwyta'n Iach 

Wrth ichi heneiddio mae'n naturiol ichi ddechrau bwyta llai oherwydd byddwch yn gwneud llai o weithgarwch corfforol ac felly bydd eich corff yn addasu ac yn newid faint o fwyd y byddwch ei angen.

Ond mae'n bwysig bwyta'n rheolaidd, o leiaf deirgwaith y dydd a sicrhau eich bod yn bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau.

Wrth ichi heniddio dylech fwyta: 

Digonedd o fwydydd sydd â llawer o startsh a ffibr ynddynt sef bara, reis, pasta, grawnfwydydd a thatws.
Bwydydd sy'n cynnwys llawer o haearn megis cig coch, pys, ffa a ffacbys, pysgod olewog, wyau, bara, llysiau gwyrdd a grawnfwyd brecwast.
Bwydydd a diodydd sy'n cynnwys llawer o fitamin C megis ffrwythau, sudd ffrwythau, llysiau a thatws.
Bwydydd sy'n cynnwys asid ffolig megis llysiau gwyrdd, reis brown, bara a grawnfwyd brecwast.
Bwydydd sy'n cynnwys llawer o galsiwm megis cynnyrch llaeth braster isel megis llaeth, caws ac iogwrt.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch bwyta'n iach cliciwch ar y dolenni cyswllt isod:

Eatwell

Help the aged