Dylan Thomas oedd un o'r ysgrifenwyr gorau i ddod o Gymru erioed, ac roedd yn un o gewri'r ugeinfed ganrif.
Ef oedd yr enwocaf o blith nifer helaeth o ysgrifenwyr Eingl-Gymreig a ffynnodd yn y cyfnod hwnnw. Ar y pryd roedd darlledu a recordio yn gyfryngau torfol newydd, ac fe wnaeth Dylan Thomas ddefnydd penodol ohonynt.
Fe'i ganed yn Abertawe ond roedd gwreiddiau ei deulu yn Sir Gâr, a hon oedd y sir a roddai ysbrydoliaeth gyson iddo.
Bu'n byw yn y 'Boathouse' yn ystod pedair blynedd olaf ei oes, pryd yr ysgrifennodd peth o'i waith llenyddol mwyaf - gan gynnwys 'Under Milk Wood'.
Bellach mae'r 'Boathouse', lle roedd Dylan a Caitlin yn byw o 1949 tan 1953 gyda'u tri phlentyn, Aeronwy, Llewelyn a Colm, yn ganolfan dreftadaeth. Erbyn hyn mae'r tŷ'n cynnwys rhai o'r celfi gwreiddiol, pethau cofiadwy, siop lyfrau, ystafell de, llwyfan gwylio, a theras, a chynhelir cyflwyniadau gweledol yno'n ogystal.
Gyda golygfeydd ysblennydd o aber afon Taf, mae hen gartref Dylan Thomas yn lle diddorol i ymweld ag ef, gan fod yno lawer o bethau cofiadwy a deunydd ynghylch y llenor enwog, ynghyd â siop lyfrau ac ystafell de.
Mae Cartref Dylan Thomas ar agor bob diwrnod o'r flwyddyn (ac eithrio dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, a dydd Calan), gyda threfn oriau tymhorol ar waith yn ystod misoedd yr haf a'r gaeaf.
Os hoffech ddarllen rhagor neu gael mwy o wybodaeth addysgol, ynghyd â thaith rithwir o Gartref Dylan Thomas, ewch i www.dylanthomasboathouse.com neu ffoniwch 01994 427420.