Mae'r Tîm Datblygu Chwaraeon ar y cyd â Chyngor Chwaraeon Lleol Sir Gaerfyrddin yn trefnu'r Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon blynyddol. Ydych chi'n gwybod am athletwr/athletwraig, tîm, hyfforddwr neu wirfoddolwyr sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith? I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma
Bowlio
Mae croeso i ddechreuwyr llwyr neu chwaraewyr profiadol yn unrhyw un o'r tri chlwb bowlio cyflawn dan do neu un o'r pymtheg lawnt awyr agored sydd ar gael ledled y Sir.

Canŵio a Chwaraeon Dŵr
Mae Canolfan Clwb Canŵio Llandysul mewn llecyn delfrydol yn agos at yr afon Teifi ym mhentref Llandysul, De-orllewin Cymru.

Beicio
Mae darganfod eich hoff lwybr beicio yn Sir Gaerfyrddin, Gardd Cymru yn haws nag erioed.

Chwarae Golff
Ceir amrywiaeth o gyrsiau 9 a 18 twll yn Sir Gaerfyrddin, sy'n addas ar gyfer chwaraewyr o bob gallu ac yn her i'r dechreuwr a'r chwaraewr profiadol.

Canolfannau Hamdden
Beth bynnag fo'ch maint, siâp, oedran neu lefel ffitrwydd, mae ystod wych o gyfleoedd hamdden arbennig ar gael at ddant pawb yn Sir Gaerfyrddin.

Sgïo ac Eirafyrddio
Does dim angen i chi fynd ar eich gwyliau i'r Alpau i ddysgu sut i sgïo ac eirafyrddio.
Cliciwch ar y ddolen isod os hoffech chi gofrestru ar gyfer derbyn negeseuon e-bost rheolaidd am y newyddion diweddaraf ynghylch gweithgareddau a digwyddiadau sy'n cael eu cynnal ledled yr Is-adran Hamdden: http://bit.ly/wzBo7v
Yn ogystal, mae'r Holiadur Gwerthuso Cyfleusterau Hamdden ar gyfer Cwsmeriaid yn parhau I fod ar gael. Os hoffech gynnig sylwadau ynghylch eich profiadau yn unrhyw un o'n cyfleusterau, cliciwch ar y ddolen isod i roi eich adborth: http://bit.ly/znWwIa