Er mwyn cofrestru eich tim(au), rhaid i bob tîm enwebu Capten. Er mwyn hwyluso pethau bydd Rygbi Cyffwrdd Sir Gâr yn cyfathrebu ag un person yn unig, h.y. y Capten.
Bydd y capten yn gyfrifol am ei dîm a bydd yn trosglwyddo'r holl wybodaeth i'r tîm ynghylch rheolau'r gystadleuaeth, rheolau'r gêm, y rhestr o gemau, iechyd a diogelwch, y cyfleusterau sydd ar gael ac ati. Bydd y capten yn cwblhau ffurflen gofrestru y tîm, a thrwy wneud hynny, bydd yn cytuno i sicrhau bod ei dîm yn hollol ymwybodol o'r hyn y mae'n ymrwymo iddo.
Os bydd newidiadau munud olaf yn digwydd, bydd Rygbi Cyffwrdd Sir Gâr yn gallu cysylltu â phob Capten, a fydd wedyn yn sicrhau bod ei dîm yn cael y wybodaeth.
Argraffwch y ddogfen PDF amgaeedig a'i phostio at:
Rygbi Cyffwrdd Sir GârTouch
Yr Uned Datblygu Chwaraeon
Cyngor Sir Caerfyrddin
Tŷ’r Nant
Parc Trostre
Llanelli
Sir Gaerfyrddin
SA14 9UT