Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych
English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych 
Nid wyf wedi chwarae rygbi cyffwrdd o'r blaen, beth wyf  i fod i'w wneud?

Y peth gwych am y gamp yw ei bod hi'n syml iawn! Mae'r rheolau'n sylfaenol iawn ac mae modd dod yn gyfarwydd â hwy'n gyflym. Bydd llawer o'r chwaraewyr heb chwarae'r gamp o'r blaen, ond bydd chwaraewyr profiadol yno hefyd a fydd yn gallu helpu eraill, felly mae'n siŵr y byddwch yn mwynhau mewn dim o dro!

Rwyf wedi casglu tîm o bobl at ei gilydd, felly beth yw'r cam nesaf?

Cofrestrwch eich tîm drwy anfon ffurflen a ffi am y tymor i'n swyddfeydd.

Ar ôl ichi dderbyn eich rhestr o gemau drwy'r e-bost, rhowch y wybodaeth i'ch tîm a cheisiwch feddwl ymlaen llaw a fydd unrhyw wythnosau pryd y bydd eich tîm yn brin o chwaraewyr o bosibl.

 Cytunwch ar wisg i chwarae ynddi. Mae'n bosibl y bydd rhai timau chwaraeon presennol am ddefnyddio eu gwisgoedd arferol, ac y bydd eraill am brynu gwisgoedd arbenigol.   Os nad ydych am fynd i'ch poced, mae'n hawdd cytuno ar un lliw y gall holl aelodau eich tîm ei wisgo. Os ydych yn penderfynu dylunio eich crysau eich hun, awgrymir eich bod yn cael rhifau ar y cefn er mwyn helpu'r dyfarnwyr.

Ar noson gêm trefnwch i gwrdd o leiaf 20-30 munud cyn y gêm. Awgrymir eich bod yn cwblhau rhai ymarferion i gynhesu'r cyhyrau, fel eich bod yn gallu perfformio hyd at eithaf eich gallu. Rydym yn awgrymu rhedeg yn araf a loncian, pasio'r bêl o gwmpas, a rhai symudiadau i ymestyn y corff a'i gymalau. Cynyddwch ddwyster yr ymarfer yn raddol fel bod curiad eich calon yn gynt a'ch bod yn chwysu rhyw ychydig ar ddechrau'r gêm.

A fyddwn yn chwarae ar yr un amser bob wythnos?

Na fyddwch - bydd yr amserau pryd y bydd y gemau'n dechrau yn amrywio o wythnos i wythnos.  Bydd gan bob tîm un gêm gynghrair yr wythnos, a bydd yr amser dechrau yn newid yn wythnosol er mwyn ceisio gwneud y sefyllfa'n deg i'r holl dimau. Gallai'r gemau ddechrau am 6.30pm, 7.15pm, neu am 8.00pm. Felly gallai eich gêm fod am 6.30pm un wythnos ac am 8.00pm yr wythnos ganlynol ac yn y blaen. Bydd rhestr o'ch gemau am y tymor a'u hamserau yn cael eu dosbarthu ichi cyn yr wythnos gyntaf fel eich bod yn gallu gwneud trefniadau teithio neu drefniadau eraill ymlaen llaw.

Hoffem chwarae mwy nag un gêm 30 munud yr wythnos…

Cysylltwch â ni os hoffech inni geisio trefnu gêm gyfeillgar yn ychwanegol at eich gêm gynghrair.

Mae gennyf ddiddordeb mewn chwarae, ond nid wyf yn gallu cael digon o chwaraewyr at ei gilydd i gofrestru tîm. A yw'n bosibl imi chwarae o hyd?

YDY!  Cysylltwch â ni ac fe wnawn roi eich enw(au) mewn clwstwr canolog o chwaraewyr. Gallwn eich cysylltu â thîm sy'n chwilio am ragor o aelodau.  Yn yr un modd, cysylltwch â ni os oes angen rhagor o chwaraewyr ar garfan eich tîm chi.

Mae sawl un o'n chwaraewyr yn methu â chwarae'r wythnos hon, a ddylem ohirio'r gêm?

Na ddylech - cysylltwch â ni ac fe wnawn geisio dod o hyd i chwaraewr addas o'n clwstwr canolog i ddod i'ch helpu. Cofiwch taw dau o "ringers" yn unig a ganiateir ymhob gêm. Os oes yn rhaid ichi ohirio gêm, rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl. Os bydd tîm yn gohirio gêm neu heb gyrraedd ar gyfer gêm, ni fydd yn cael dim pwyntiau a chaiff y gêm ei  fforfedu a'i dynodi'n 'golled heb chwarae', ONI BAI bod y tîm yn trefnu gyda chapten y gwrthwynebwyr a chydgysylltydd y gystadleuaeth i chwarae'r gêm rywbryd arall.  Rhaid cytuno ar hyn o leiaf wythnos cyn dyddiad swyddogol y gêm, a gwneud cofnod ar ffurflen swyddogol sydd ar gael o ddesg y cydgysylltydd.

DOLENNI CYSWLLT

Federation of International Touch –
http://www.international-touch.org/

 Cymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru – www.walestouch.co.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 09/2/2011