Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ac Undeb Rygbi Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn datblygu Rygbi yn y Sir am dros wyth mlynedd.
Nod cyffredinol y Swyddog Datblygu Rygbi yw datblygu rygbi ar gyfer chwaraewyr 8 i 19 oed.
- Cynyddu nifer y chwaraewyr yn y grŵp 8 i 19 oed.
- Trefnu a darparu Gwyliau, Sioeau Teithiol, Diwrnodau Campau'r Ddraig a Chystadlaethau ar gyfer Pobl Ifanc.
- Cydgysylltu ag ysgolion er mwyn darparu cymorth â gweithgareddau rygbi a gemau rygbi cyrsiol ac allgyrsiol
- Darparu cyngor ac arweiniad ynghylch datblygiad clybiau a chyfleoedd cyllido i bob clwb rygbi yn y Sir.
- Gwella safonau hyfforddi drwy ddarparu cyrsiau Addysg Hyfforddwyr priodol.
- Helpu i ddynodi, datblygu a pharatoi timau rhanbarthol ar gyfer gwahanol oedrannau.
- Sefydlu cynllun datblygu rygbi ar gyfer y Sir, ar y cyd â phartneriaid.
- Codi proffil Rygbi yn y Sir
Eisiau ymuno â chlwb rygbi yn agos atoch chi?
I ddod o hyd i'ch clwb agosaf, ewch i chwilio yn y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon neu cysylltwch â Richard Hardy, Swyddog Datblygu Rygbi drwy ffonio 01554 744348.