English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Pel Droed 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin ac Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu pêl-droed yn y Sir am dros ddeng mlynedd.

Nod gyffredinol y Swyddog Datblygu Pêl-droed yw dyfeisio a gweithredu cynllun pêl-droed lleol i gyd-fynd â chanllawiau Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru a chynyddu'r cyfleoedd a'r safonau ar gyfer pob chwaraewr boed yn wrywaidd neu'n fenywaidd, yn ddechreuwr neu'n chwaraewr proffesiynol er mwyn cefnogi'r Timau Cenedlaethol.)

Dyfeisio a hwyluso gwaith cynllunio, gweithredu a monitro cynllun y Sir ar gyfer pêl-droed yn unol â thargedau a blaenoriaethau Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Dylai'r cynllun hwn gynnwys datblygiad clybiau yn ogystal â chyfleoedd chwarae, hyfforddi a chystadlu yn Sir Gaerfyrddin a ddylai olygu gwella safonau a chynnydd yn y nifer sy'n cymryd rhan.
  
Mae'r amcanion mwy penodol fel a ganlyn:

  • Cynyddu'r nifer sy'n cymryd rhan drwy raglen strwythuredig o Bêl-droed hwyl a chynlluniau a chlybiau achrededig.
  • Trefnu cyrsiau Addysg Hyfforddwyr ar draws y Sir.
  • Datblygu'r strwythur lleol presennol drwy weithredu mentrau sydd wedi'u cymeradwyo gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer Achredu Clybiau Pêl-droed Iau sydd bellach yn orfodol yng Nghymru.
  • Sefydlu a datblygu timau newydd i ferched o fewn clybiau presennol neu fel clybiau newydd.
  • Sefydlu a datblygu cysylltiadau ag ysgolion cynradd ac uwchradd yn yr Awdurdod a gweithredu Cynllun hynod lwyddiannus McDonalds.
  • Hybu Pêl-droed ar draws yr Awdurdod drwy'r cyfryngau lleol.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar ddatblygiad clybiau a chyfleoedd cyllido i bob clwb pêl-droed achrededig yn y Sir.

1. Clustnodi, cydlynu a darparu, lle bo hynny'n angenrheidiol, hyfforddiant ar gyfer hyfforddwyr, dyfarnwyr, athrawon, swyddogion lles, rhieni a gwirfoddolwyr eraill sy'n defnyddio rhaglenni addysg hyfforddwyr pêl-droed neu raglenni hyfforddiant cyffredinol.

2. Gweithio mewn partneriaeth â Swyddogion Datblygu Chwaraeon lleol, y tîm Pobl Ifanc Egniol a chynrychiolwyr addysg lleol er mwyn sicrhau bod pêl-droed yn cyd-fynd ac yn cysylltu â chyfleoedd datblygu chwaraeon eraill yn ogystal â dynodi partneriaid newydd er mwyn datblygu cyfleoedd pellach.

3.  Cydlynu trefniadaeth a gweithrediad Canolfannau Datblygu er mwyn cefnogi cynnydd chwaraewyr talentog yn yr awdurdod lleol.

4. Monitro a chydlynu atgyfeirio chwaraewyr o glybiau a Chanolfannau Datblygu i Academïau.

5  Sefydlu cronfa ddata o chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â mentrau pêl-droed lleol.

Eisiau ymuno â chlwb pêl-droed yn agos atoch chi?

I ddod o hyd i'ch clwb agosaf, ewch i chwilio yn y cyfeirlyfr clybiau chwaraeon neu cysylltwch â Colin Staples, Swyddog Datblygu Pêl-droed drwy ffonio 01554 744347.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 23/11/2011