English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cadwraeth Hanesyddol 
Heblaw am yr ardal goediog, arferai'r safle fod yn gartref i nifer o pyllau glo a gweithfeydd glo brig.

Cynhaliodd Archaeoleg Cambria ymchwiliad cychwynnol i hanes cyffredinol y safle. Gwelwyd bod tri gwaith glo yn arfer bod ar y safle neu yn y cyffiniau, sef Glofa Blaenhirwaun, Glofa Hirwaun-Oleu, a Glofa Llechyfedach; ynghyd â bwthyn a godwyd ar ôl yr oesoedd canol, a dwy reilffordd (yn ôl rhai ffynonellau, un o'r rheilffyrdd hyn oedd y rheilffordd gyntaf yn y byd i gludo teithwyr).

Mae 11 o wythiennau glo o dan yr wyneb yn y man hwn - ac mae eu dyfnder yn amrywio o wythïen 'fas' iawn i wythïen sydd 500 metr o ddyfnder. Rhoddwyd y gorau i gloddio am lo yma yn 1975.  Mae 15 o fynedfeydd i byllau glo yn y cyffiniau. Ers cynnal yr ymchwiliad cychwynnol hwn mae Archaeoleg Cambria wedi llunio dogfen helaeth am hanes y safle a'r plwyfi cyfagos. 

Mae'r manylion sydd ar y byrddau gwybodaeth yn seiliedig ar y gwaith ymchwil hwnnw.

Gwnaed gwaith sylfaenol ar ddechrau'r 1990au i adfer y safle ac i gael gwared â'r tomenni glo ac ati.

Mae ffordd darmac yn mynd ar hyd bron hanner y safle ac yna'n ymuno â llwybr da gwastad trwy'r coed, gan olygu bod modd mynd ar daith gron drwy'r safle.

Mae gweddill y safle ar ffurf glaswelltir agored neu lecynnau lle mae trwch o brysgwydd.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 24/8/2009