English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 12/3/2009
Parc Arfordirol y Mileniwm  

Mae miloedd o ymwelwyr y flwyddyn yn heidio i dde orllewin Cymru i ddarganfod prydferthwch rhyfeddol Parc Arfordirol y Mileniwm.

Mae pawb sy’n dod i’r Parc arobryn yn gadael gydag atgofion melys o’i faint a’i harddwch.

Mewn cwta 10 mlynedd, cafodd y 22 cilomedr o arfordir ar hyd glannau gogleddol Aber yr Afon Llwchwr eu trawsnewid yn gasgliad unigryw o atyniadau ymwelwyr, cynefinoedd bywyd gwyllt a chyfleusterau hamdden.

Crëwyd y Parc i ddathlu dyfodiad y mileniwm newydd a chafodd ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, Cyngor Sir Caerfyrddin, cyn Awdurdod Datblygu Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol a’r Undeb Ewropeaidd.

Y nod oedd trosi dros 1,000 hectar o anialwch diwydiannol yn dirlun trawiadol fyddai’n ategu at ac yn cyfoethogi prydferthwch naturiol yr aber ei hun.

Roedd yn brosiect enfawr ond mae’r canlyniadau’n rhyfeddol. Lloriwyd dros 200 mlynedd o gam-drin diwydiannol ac fe grëwyd paradwys o barctir yn ei le.

Erbyn hyn mae pobl yn llifo i’r Parc am bob math o resymau – i fynd am dro, i gymryd rhan yn y llu o ddigwyddiadau gwahanol, i fwynhau gweithgareddau hamdden neu i wneud dim mwy nac eistedd a gwylio’r byd yn mynd heibio.

Yng ngwir ystyr y gair, mae rhywbeth i bawb ym Mharc Arfordirol y Mileniwm.  

 
Manylion Cysyllt
 
Hamdden
Tŷ’r Nant, Parc  Busnes  Trostre
Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA14 9UT
E-bost: hamdden@sirgar.gov.uk  
Rhif ffôn:01554 747500