Beth am gadw'n heini a mwynhau awyr iach yr Arfordir a Chefn Gwlad!
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu ystod eang o gyfleusterau hamdden arfordir a chefn gwlad.
Beth am fanteisio ar gefn gwlad gwych Sir Gaerfyrddin a mwynhau'r golygfeydd godidog sy'n ymestyn am filltiroedd i bob cyfeiriad.
Yn ogystal, mae Sir Gaerfyrddin yn gartref i draeth arobryn Cefn Sidan sy'n wyth milltir o hyd.
Mae'r traeth wedi ennill Gwobr Baner Las a'r wobr Glan-môr yn ogystal â'r wobr Baner Las Ewropeaidd un ar ddeg gwaith yn y pedair blynedd ar ddeg diwethaf.