TAIR AFON
Mae'r cyngor hwn gan y Cyngor yn ategu rheolau Uned Bysgodfeydd Llywodraeth Cymru ynghylch casglu cocos.
• Peidiwch â chasglu pysgod cregyn oni bai ei bod yn ddiogel gwneud hynny
Mae gan Bysgodfa'r Tair Afon amrediad llanw mawr, ynghyd â llanwau a cherhyntau cryfion a mannau lle mae'r tywod yn feddal iawn. Hefyd mae'r bysgodfa'n rhan o ddau o feysydd tanio'r Weinyddiaeth Amddiffyn, a phan fyddant yn cael eu defnyddio ni chaniateir mynediad i'r bysgodfa ac ni ellir casglu cocos.
• Cadwch at yr is-ddeddfau bob amser
Rheolir casglu cocos ym Mhysgodfa'r Tair Afon gan is-ddeddfau a orfodir gan Swyddogion Uned Bysgodfeydd Llywodraeth Cymru. Rhaid cadw at yr is-ddeddfau bob amser a chadw llygad o hyd am unrhyw newidiadau yn yr is-ddeddfau a allai effeithio ar eich gweithgareddau casglu.
• Gwarchodwch y Bysgodfa
Mae cynefinoedd arbennig iawn ym Mhysgodfa'r Tair Afon ar gyfer amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, ac mae casglwyr pysgod cregyn yn allweddol o ran gwarchod y cynefinoedd hyn. Gwarchodir rhai o'r cynefinoedd hyn gan y gyfraith, sy'n golygu na ellir casglu cocos yno oni bai bod caniatâd penodol wedi cael ei roi i wneud hynny.
• Rhai ‘Pethau y dylech eu gwneud’
Gofynnwch i'r perchennog tir bob tro am ganiatâd i barcio eich car neu eich fan gerllaw ac i gael mynediad i'r traeth.
Cadwch y mannau casglu yn lân ac yn glir rhag sbwriel bob amser.
Defnyddiwch doiledau 'portaloo' neu gyfleusterau cyhoeddus lleol cyn mynd i welyau'r pysgod cregyn.
• Rhai ‘Pethau na ddylech eu gwneud’
Peidiwch byth â mynd â'ch cerbyd oddi ar yr heol nac ar welyau'r pysgod cregyn.
Nid oes hawl i wersylla ar y Grîn yn Llansteffan.
Peidiwch byth â mynd ar y meysydd tanio pan fydd saethu neu ymarferion yn digwydd yno.
Gwybodaeth Ddefnyddiol:-
Er mwyn cael mynediad i Drwyn Ginst mae'n rhaid bod trefniadau preifat wedi cael eu gwneud rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r proseswyr neu'r casglwyr cocos.
Cyngor Tref Lacharn sy'n gyfrifol am y maes parcio a'r cyfleusterau lansio cychod ar y Grist, ac nid ydynt ar gael.
Er mwyn cael mynediad i welyau'r pysgod cregyn yn Llan-y-bri mae'n rhaid bod trefniadau preifat wedi cael eu gwneud rhwng y perchnogion tir a'r proseswyr neu'r casglwyr cocos.
Nid oes hawl i wersylla na pharcio cerbydau ar y Grîn yn Llansteffan. Dim ond ar droed y mae hawl i gyrraedd y traeth o'r maes parcio, a hynny o'r Grîn, o Heol y Glo, ac o'r ffordd gyhoeddus sy'n arwain at orsaf bwmpio Dŵr Cymru.
Mae mynediad i'r llithrfa yng Nglanyfferi yn breifat, ac mae'n rhaid bod trefniadau wedi eu gwneud rhwng y perchnogion tir a'r proseswyr neu'r casglwyr cocos er mwyn ei defnyddio ac er mwyn angori cychod a glanio neu lwytho pysgod cregyn.
Rhaid i bob cerbyd sy'n teithio i Lanyfferi ddefnyddio'r ffordd benodedig o'r A484.
Er mwyn cael mynediad i welyau'r pysgod cregyn drwy'r pentref gwyliau ar ochr ogleddol aber afon Gwendraeth, mae'n rhaid bod trefniadau preifat wedi cael eu gwneud rhwng y perchnogion tir a'r proseswyr neu'r casglwyr cocos.
Nid oes mynediad ar gael o Gei Cydweli.
Nid oes mynediad ar gael drwy Barc Gwledig Pen-bre i'r gwelyau pysgod cregyn ar ochr ddeheuol aber afon Gwendraeth.
Er mwyn cael mynediad i afon Gwendraeth ar gwch mae'n rhaid bod trefniadau preifat wedi cael eu gwneud rhwng y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r proseswyr neu'r casglwyr cocos.