Sut y dylwn i arddangos fy Mathodyn Glas?
Dylech arddangos y bathodyn parcio a'r cloc yn glir yn y ffenestr flaen, a dylech ofalu nad yw'r naill yn cuddio'r llall. Mae'n rhaid arddangos y bathodyn gyda symbol y gadair olwyn yn wynebu lan. Ni ddylech arddangos yr ochr sydd â'ch llun a'ch manylion personol. Byddwch yn cael dirwy parcio os nad ydych yn arddangos eich Bathodyn Glas yn iawn.
Ymhle y gallaf barcio?
Yn gyffredinol mae'r Bathodyn Glas yn caniatáu i chi wneud y canlynol:
Parcio yn ddi-dâl a heb gyfyngiad ar amser ar strydoedd lle mae mesuryddion parcio a threfniadau 'talu a dangos' mewn grym, os nad oes gorchymyn traffig lleol mewn grym sydd yn pennu terfyn amser ar gyfer deiliaid bathodynnau parcio i bobl anabl. Chwiliwch am yr arwyddion a nodwch unrhyw gyfyngiadau sydd mewn grym cyn parcio a gadael eich car.
Parcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr.
- Yn Sir Gaerfyrddin gallwch barcio am hyd at dair awr yn ddi-dâl yn un o feysydd parcio y Cyngor (bydd rheolau eraill mewn grym mewn meysydd parcio preifat e.e. meysydd parcio sydd yn eiddo i siopau neu orsafoedd rheilffordd). A fyddwch chi gystal â nodi y bydd gwahanol reolau mewn grym y tu allan i Sir Gaerfyrddin ac felly dylech ddarllen arwyddion parcio lleol i gadarnhau beth yw'r rheolau yno.
Mae'n bosibl y bydd rhai cyfyngiadau, ac mae'r wybodaeth uchod yn rhoi arweiniad yn unig. Dylech ddarllen y llyfryn sydd yn dod gyda'ch Bathodyn Glas, neu ofyn am gopi arall gan yr Uned Bathodynnau Glas (Mae'r manylion cyswllt ar gael isod). Neu gallwch chi gael copi drwy fynd i wefan yr Adran Drafnidiaeth (www.dft.gov.uk).
Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech arddangos eich disg parcio.
A yw'r bathodyn i gael ei ddefnyddio ar gerbyd yr ymgeisydd yn unig?
Mae'r bathodyn at ddefnydd personol deiliad y bathodyn a hynny mewn unrhyw gerbyd, ac mae'n rhaid sicrhau taw'r unig bryd y caiff ei arddangos yw pan fydd deiliad y bathodyn yn ei ddefnyddio. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'r bathodyn yn cael ei ddefnyddio gan neb arall, ac ni ddylid gadael i rywun abl fanteisio ar y bathodyn tra bo deiliad y bathodyn yn eistedd yn y car neu heb fod yn rhan o'r daith. Mae gadael i rywun abl ddefnyddio bathodyn a gyrru cerbyd sydd yn arddangos Bathodyn Glas yn drosedd, os nad yw deiliad y bathodyn yn y cerbyd. Gellir cael dirwy o hyd at £1,000 am gamddefnyddio Bathodyn Glas.
A gaf i adael fy mathodyn yn y golwg yn y cerbyd pan nad yw'n cael ei ddefnyddio?
Na chewch. Dylech gadw eich bathodyn mewn man diogel, a'i arddangos pan fydd angen ei ddefnyddio arnoch yn unig. Hefyd bydd gadael y bathodyn yn y golwg drwy'r amser yn achosi i'r wybodaeth ar y bathodyn bylu; gallech gael dirwy am hynny, a hefyd mae'n wahoddiad agored i ladron.
Am faint mae'r bathodyn mewn grym?
Tair blynedd. Os oes angen y bathodyn arnoch o hyd ar ôl y cyfnod hwn, mae'n rhaid cyflwyno cais o'r newydd am ei adnewyddu a dychwelyd y bathodyn sydd wedi darfod.
A ydych chi'n rhoi gwybod bod y dyddiad adnewyddu yn agosáu?
Ar hyn o bryd nid ydym yn rhoi gwybod i ddeiliaid bod dyddiad adnewyddu eu bathodyn yn agosáu. Rydym yn dweud wrth bawb sydd wedi cael bathodyn fod angen iddynt gofio pryd mae'r dyddiad darfod, a chyflwyno cais am adnewyddu'r bathodyn fis cyn y dyddiad darfod.
A fydd yn rhaid i mi lenwi ffurflen arall pan fyddaf yn adnewyddu fy mathodyn?
Bydd. Mae pob bathodyn yn cael ei drin fel cais newydd.
Mae fy mathodyn wedi darfod ac rwyf wedi cael un newydd.
Beth ddylwn ei wneud â'r hen fathodyn?
A fyddwch chi gystal â mynd â'ch hen fathodyn i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, neu ei bostio i'r Uned Bathodynnau Glas (gweler y manylion cyswllt isod).
Rwy'n symud i gartref newydd sydd mewn ardal awdurdod lleol arall.
A fyddaf yn gallu defnyddio fy mathodyn o hyd?
Byddwch. Gallwch ddefnyddio eich bathodyn tan y dyddiad darfod. I adnewyddu'r bathodyn, dylech gysylltu â'ch cyngor newydd tua 6 wythnos cyn dyddiad darfod eich bathodyn.
Rwyf wedi colli fy mathodyn, neu mae wedi cael ei ddwyn. Sut mae cael un arall?
Bydd angen i chi gysylltu â'r Heddlu os yw eich bathodyn wedi ei ddwyn neu wedi ei golli (hyd yn oed os ydych yn meddwl eich bod wedi ei golli yn rhywle yn eich cartref). Bydd yr Heddlu yn rhoi cyfeirnod trosedd / eiddo coll i chi. Y cam nesaf yw llenwi ffurflen gais am Fathodyn Glas yn lle Bathodyn a Gollwyd/Dygwyd (mae'r ffurflen ar gael drwy gysylltu â Galw Sir Gâr neu yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid), ac yna anfon y ffurflen a'r lluniau yn ôl atom. Ni chodir ffi am ddarparu bathodyn newydd yn lle bathodyn a gollwyd neu a ddygwyd.
Mae'r manylion ar fy Mathodyn Glas wedi pylu yn yr haul, beth y gallaf ei wneud?
Mae'n bwysig fod y manylion ar eich bathodyn yn glir, neu byddwch yn cael dirwy barcio fel arall. Os yw eich bathodyn yn pylu neu'n cael ei ddifrodi, dychwelwch ef i'r Uned Bathodynnau Glas (gweler y cyfeiriad isod) a byddwn yn darparu un arall yn ei le yn ddi-dâl. Mae'n bwysig nad ydych yn ysgrifennu ar eich bathodyn nac yn ei ddifrodi mewn unrhyw fodd, gan y gallai hynny godi amheuon.
A wyf yn gallu cael dau fathodyn?
Nac ydych. Mae deddfwriaeth yr Adran Drafnidiaeth yn caniatáu i ni roi un bathodyn yn unig i unigolyn at ei ddefnydd personol.
A oes ar sefydliad angen bathodynnau unigol ar gyfer y cleientiaid neu a all gael un bathodyn ar gyfer y cartref?
Gellir rhoi bathodyn i gartref neu fudiad sydd yn rhoi gofal i bobl anabl. Cysylltwch â Galw Sir Gâr neu ewch i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid a gofyn am ffurflen gais am Fathodyn Glas i Sefydliad. Codir ffi o £2.00 (yn daladwy trwy siec neu archeb bost i ‘Cyngor Sir Caerfyrddin’).
Nid oes angen y bathodyn arnaf mwyach; i bwy y dylwn ei ddychwelyd?
Os na fydd angen y bathodyn mwyach am ba reswm bynnag, mae'n rhaid ei ddychwelyd i ni. Gallwch adael y Bathodyn Glas yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu ei anfon at yr Uned Bathodynnau Glas ynghyd â llythyr yn esbonio beth sydd yn digwydd.
Nid wyf mwyach yn cael cyfradd uwch yr elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl, neu mae fy amgylchiadau wedi newid ac nid oes angen y bathodyn arnaf mwyach. Beth ddylwn ei wneud?
Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn i ni. Gallwch adael y Bathodyn Glas yn unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid neu ei anfon at yr Uned Bathodynnau Glas ynghyd â llythyr yn esbonio beth sydd yn digwydd.
Beth os bydd fy manylion yn newid?
Os yw eich manylion personol yn newid, hynny yw, eich cyfeiriad neu eich enw ac ati, dylech roi gwybod i'r Uned Bathodynnau Glas gan ddarparu tystiolaeth o'r newid fel y gellir rhoi bathodyn wedi ei ddiweddaru i chi.
CAMDDEFNYDD
Beth ddylwn ei wneud os wyf yn meddwl bod bathodyn yn cael ei gamddefnyddio.
Rhoi gwybod am y mater i Dîm y Bathodynnau Glas gan roi cymaint o fanylion y bathodyn ag y gallwch eu gweld (enw, rhif y bathodyn, dyddiad darfod, ac yn y blaen). Byddwn yn ymchwilio i'r mater, ac yn cymryd camau gweithredu priodol os gwelir bod y bathodyn yn cael ei gamddefnyddio.
Manylion Cyswllt - Ffurflenni cais:
Galw Sir Gâr: 01267 234567
E-bost: galw@sirgar.gov.uk
Neu ewch i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn:
Neuadd y Dref, Rhydaman
3 Heol Spilman, Caerfyrddin
-
Tŷ Elwyn, Llanelli
Ymholiadau ynghylch ceisiadau cyfredol am Fathodynnau Glas:
Yr Uned Bathodynnau Glas
Yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Cyngor Sir Caerfyrddin
RHADBOST/FREEPOST RRUS-LLCT-UTUU
Caerfyrddin
SA31 1LE
Ffôn: 01267 228813
Anfonwch E-bost: schbluebadges@sirgar.gov.uk