English |  Hepgor gwe-lywio | Testun yn Unig |  Newid maint y testun AAA
Gwasanaethau Digidol: Llif Newyddion | fersiwn symudol | Teledu Digidol
Y Cynllun Bathodyn Glas 

Mae'r Cynllun Bathodyn Glas yn cynnig trefniant rhyngwladol o gonsesiynau parcio i bobl sy’n anabl neu sydd ag anawsterau cerdded difrifol ac yn teithio fel gyrwyr neu deithwyr.

Mae'r cynllun hefyd yn berthnasol i bobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall ac i bobl sydd ag anabledd difrifol yn eu breichiau, sy'n gyrru cerbyd yn rheolaidd ond yn methu â throi'r llyw â'u llaw. Bwriad y cynllun yw caniatáu i ddeiliaid y bathodyn barcio yn agos i'w cyrchfan.

Ar hyn o bryd dim ond pobl sydd wedi eu cofrestru'n ddall neu bobl sydd ag anawsterau parhaol o ran cerdded sydd yn gallu cael Bathodyn Glas. Trwy ddefnyddio'r Bathodyn Glas mae'r cerbyd y mae deiliad y bathodyn yn teithio ynddo yn gallu parcio mewn mannau dynodedig, gan ei gwneud hi'n haws i ddeiliad y bathodyn gyrraedd siopau a chyfleusterau eraill.  
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cynnal y Cynllun ar ran yr Adran Drafnidiaeth, gan gydymffurfio â'r rheolau a bennwyd gan y Llywodraeth (gweler www.dft.gov.uk i gael rhagor o fanylion).

Pwy sy'n gymwys i gael Bathodyn Glas?

O dan y ddeddfwriaeth bresennol, gallwch gael Bathodyn Glas:

  • Os ydych yn cael Lwfans Symudedd neu gyfradd uwch yr elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl; neu
  • Os ydych yn cael Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel; neu
  • Os ydych wedi eich cofrestru'n ddall; neu
  • Os ydych yn defnyddio cerbyd a ddarparwyd ar gyfer pobl anabl gan un o Adrannau'r Llywodraeth; neu
  • Os oes gennych anabledd difrifol parhaol sydd yn golygu eich bod yn cael anhawster mawr i gerdded neu nad ydych yn gallu cerdded o gwbl (mae'n bosibl y byddwn yn cysylltu â'ch meddyg i gadarnhau hyn); neu
  • Os oes gennych anabledd difrifol yn y ddwy fraich, sydd yn golygu nad ydych yn gallu troi'r llyw â'ch llaw hyd yn oed os oes bwlyn troi wedi ei osod ar y llyw.

Hefyd mae'n bosibl y bydd sefydliadau sydd yn gofalu am bobl anabl sydd yn cydymffurfio â'r meini prawf uchod yn gallu cael Bathodyn Glas, ond mae hynny'n dibynnu'n llwyr ar ein penderfyniad ni.

Pwy na fyddai'n gymwys i gael Bathodyn Glas?

  • Nid yw plant o dan ddwy oed yn gymwys i gael bathodyn gan na fyddai disgwyl fel rheol iddynt gerdded yn annibynnol.
  • Nid yw pobl ag anabledd dros dro, megis coes wedi ei thorri, yn gymwys.
  • Pobl ag anabledd neu salwch ysbeidiol.
  • Pobl sydd yn aros i gael clun neu ben-glin newydd gan fod disgwyl y byddant yn gallu symud yn fwy hwylus ar ôl cael y llawdriniaeth.

Ydw i'n gallu cyflwyno cais am Fathodyn Glas ar gyfer plentyn o dan 2 oed?

Nac ydych. Mae deddfwriaeth bresennol yr Adran Drafnidiaeth yn datgan na ellir rhoi Bathodyn Glas i blentyn o dan 2 oed. 

Rwyf wedi fy nghofrestru'n rhannol ddall. A fyddaf yn gymwys yn awtomatig i gael Bathodyn Glas?

Na fyddwch. Dim ond rhywun sydd wedi ei gofrestru'n ddall o dan Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 sydd yn gymwys yn awtomatig i gael Bathodyn Glas.
Rwyf yn cael cyfradd uwch y Lwfans Gweini. A fyddaf yn gymwys yn awtomatig i gael Bathodyn Glas?
Na fyddwch. Mae'n rhaid i chi fod yn derbyn cyfradd uwch yr elfen symudedd o'r Lwfans Byw i'r Anabl i fod yn gymwys i gael Bathodyn Glas.

Nid wyf yn gyrru, a wyf yn gallu cael Bathodyn Glas?
 
Nid oes rhaid i chi fod yn berchen ar gerbyd nac yn gallu gyrru.  Mae'r bathodyn ar eich cyfer chi, ac mae modd ei ddefnyddio mewn unrhyw gerbyd yr ydych yn teithio ynddo, boed fel gyrrwr neu fel teithiwr. 

A yw'r cais (y llun, ac yn y blaen) yn cael ei gyflwyno yn enw'r gyrrwr neu'r unigolyn anabl?

Mae'r cais yn cael ei gyflwyno yn enw'r unigolyn anabl bob amser, gan taw bathodyn yr unigolyn ydyw i'w ddefnyddio mewn unrhyw gerbyd. 

Mae angen bathodyn ar fy mhlentyn - a wyf yn rhoi fy manylion i neu fanylion fy mhlentyn?

Dylai'r cais gael ei gyflwyno yn enw'r plentyn.  Y plentyn yw'r ymgeisydd, felly mae'n rhaid cael lluniau a manylion y plentyn, ond gallwch lofnodi'r cais ar ran y plentyn. 

A ydw i'n gallu llofnodi'r cais ar ran fy ngŵr/gwraig/mab/merch?
 
Ydych. Gall aelod penodedig o'r teulu neu gyfaill lofnodi'r cais ar ran yr ymgeisydd. 

Mae mynd i fwth tynnu lluniau yn anodd dros ben - a ydych yn gallu rhoi bathodyn heb luniau?

Os yw hynny'n anodd i chi, mae dau lun diweddar a dynnwyd gartref yn dderbyniol.   Mae arnom angen gallu 'torri'r' llun i fod yr un maint â llun pasport gan ddangos wyneb yr ymgeisydd.  Ar achlysuron prin iawn, gallwn roi'r bathodyn heb lun os yw'n wirioneddol amhosibl cael llun. 

Faint yw cost y bathodyn, a sut y dylwn i dalu?

Mae angen talu ffi o £2 wrth gyflwyno'r cais.  Dylai'r taliad fod ar ffurf siec neu archeb banc, gan fod yn daladwy i  ‘Cyngor Sir Caerfyrddin’.  Peidiwch ag anfon arian parod.
Rhoddir ad-daliad os gwrthodir eich cais.

Am faint y byddaf yn gorfod aros cyn cael bathodyn?

Dylech gael eich Bathodyn Glas o fewn 2-3 wythnos i'ch cais, oni bai ein bod yn gorfod ymgynghori â'ch meddyg teulu, sydd yn golygu y gall y cais gymryd rhagor o amser.  Fel rheol caiff Bathodyn Glas newydd ei roi wythnos cyn dyddiad darfod yr hen fathodyn.

Mae fy nghais wedi ei wrthod, a wyf yn gallu apelio?

Os yw eich cais wedi ei wrthod ac os ydych yn barnu bod eich problemau symudedd wedi gwaethygu neu nad oedd yr holl ffeithiau perthnasol wedi eu hystyried, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad, a byddwn yn ailystyried eich cais.  Dylech ysgrifennu at yr Uned Bathodynnau Glas, gan ofyn am i'r cais gael ei ailystyried.

A fyddwch chi gystal â nodi ein bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth yr Adran Drafnidiaeth ac felly na allwn roi bathodynnau i'r canlynol ar hyn o bryd:

  • Plant o dan ddwy oed - dylid cyflwyno cais newydd pan fydd y plentyn ar gyrraedd neu wedi cyrraedd ei ddwy oed.
  • Pobl ag anableddau dros dro neu ysbeidiol.

Manylion Cyswllt - Ffurflenni cais:

Galw Sir Gâr: 01267 234567
E-bost: galw@sirgar.gov.uk

Neu ewch i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn:

  • Neuadd y Dref, Rhydaman
  • 3 Heol Spilman, Caerfyrddin
  • Tŷ Elwyn, Llanelli

Ymholiadau ynghylch ceisiadau cyfredol am Fathodynnau Glas:

Yr Uned Bathodynnau Glas
Yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai 
Cyngor Sir Caerfyrddin
RHADBOST/FREEPOST RRUS-LLCT-UTUU
Caerfyrddin
SA31 1LE
Ffôn: 01267 228813
Anfonwch E-bost: schbluebadges@sirgar.gov.uk

Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/2/2010