English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/9/2012
Cyflwyno cais am Fathodyn Glas  

Sut rwyf yn cyflwyno cais am Fathodyn Glas?

Mae sawl ffordd o wneud cais am Fathodyn Glas.

Gallwch wneud cais ar-lein: Direct.gov.uk

Cysylltwch â Galw Sir Gâr drwy ffonio 01267 234567 i ofyn am ffurflen gais a thaflen wybodaeth, neu ewch i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin, lle gallwch gael pecyn cais.

Gallwch hefyd lawrlwytho Ffurflen Gais am Fathodyn Glas. Ar ôl cwblhau'r ffurflen gais mae modd ei dychwelyd i'r cyfeiriad canlynol:

Rhadbost RRUS-LLCT-UTUU
Yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Cyngor Sir Caerfyrddin
Caerfyrddin
SA31 1LE

Neu i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid

Bydd angen darparu'r eitemau canlynol gyda'ch cais:

• Llun diweddar o faint llun pasport (neu mewn amgylchiadau penodol lun arall y mae modd ei dorri i'r maint hwnnw)
• Tystiolaeth eich bod yn gymwys i dderbyn bathodyn - er enghraifft, llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Lwfans Symudedd neu'r elfen symudedd uwch o'r Lwfans Byw i'r Anabl ac ati
• Tystiolaeth o bwy ydych chi