English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Tudalen wedi ei diweddaru ar 04/2/2010
Sut i gyflwyno cais am fathodyn glas 

Sut yr wyf yn cyflwyno cais am Fathodyn Glas?

Ffoniwch Galw Sir Gâr i ofyn am ffurflen gais a thaflen wybodaeth, neu ewch i un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Llanelli, Rhydaman neu Gaerfyrddin, lle gallwch gael pecyn cais (mae'r manylion cyswllt ar gael isod).

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais wag am Fathodyn Glas

Gallwch lawrlwytho ffurflen gais drwy glicio ar ochr dde'r dudalen. Ar ôl i chi lawrlwytho'r ffurflen, gallwch argraffu copi, ei lenwi â llaw a'i bostio i'r cyfeiriad isod.

Bydd angen darparu'r eitemau canlynol gyda'ch cais:

  • 2 lun diweddar o faint llun pasport (neu 2 lun arall y mae modd eu torri i'r maint hwnnw)
  • Ffi o £2 ar ffurf siec neu archeb bost (yn daladwy i ‘Cyngor Sir Caerfyrddin’), ac nid arian parod.
  • Label wedi ei lofnodi (darperir y label yn y pecyn cais).

Tystiolaeth eich bod yn gymwys i dderbyn bathodyn - er enghraifft, llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cadarnhau eich bod yn derbyn y Lwfans Symudedd neu elfen symudedd uwch y Lwfans Byw i'r Anabl
Ar ôl llenwi'r ffurflen gais gallwch ei dychwelyd i'r

Uned Bathodynnau Glas (gweler isod) neu i unrhyw un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid.

Rhadbost/Freepost RRUS-LLCT-UTUU
Yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai
Cyngor Sir Caerfyrddin
Caerfyrddin SA31 1LE