



Croeso i Wefan Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol.
Mae’r Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol, neu’r Bartneriaeth Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RhDGGC) fel y’i gelwir weithiau, yn darparu arian grant i weithredu’r canllawiau yn y ‘Cynlluniau ar gyfer Hyfforddiant a Datblygu Staff ar draws y Sector Gofal Cymdeithasol’ a gyhoeddwyd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Gorffennaf 2003. Yn un o’r cyrff sy’n gweithredu’n annibynnol ar Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn atebol i Gynulliad Cymru, mae’r Arolygiaeth yn estyn gwahoddiad bob blwyddyn (ym mis Mawrth fel arfer) i’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wneud cais am arian ar ran eu Partneriaethau.
Dylid darllen yr adrannau canlynol cyn cyflwyno cais am hyfforddiant. Mae’r wybodaeth a geir yn yr adrannau hyn yn ateb nifer o gwestiynau cyffredin ac yn egluro’r gwasanaethau hyfforddi a gynigir gan yr Adran hon.
Rydym wedi rhannu’r tudalennau ar Raglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn 2 Ran:
• Beth Ydym Ni'n Gwneud
• Sut i Ganfod Cyrsiau Hyfforddi
Am fanylion pellach e-bostiwch: GCTAdainHyfforddiant@sirgar.gov.uk