Mae Partneriaeth Plant Sir Gaerfyrddin yn dymuno bod plant Sir Gâr yn ddiogel, yn hapus ac yn iach; a'u bod yn tyfu ac yn datblygu yn ôl eu gallu i fod yn aelodau hyderus a gofalgar o'r gymdeithas a pharchu pob agwedd ar amrywiaeth.
Mae'r Bartneriaeth yn deall bod rhaid darparu gwasanaethau drwy'r sir gyfan er mwyn sicrhau bod anghenion iechyd, addysg a chymdeithasol plant yn cael eu diwallu, fodd bynnag bydd yn ofynnol hefyd i dargedu plant sydd â'r angen mwyaf, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cychwyn gorau mewn bywyd.
Mae aelodau'r Bartneriaeth yn cynrychioli'r prif asiantaethau statudol a gwirfoddol sy'n darparu gwasanaethau i blant y Sir. Plant rhwng 0 a 10 oed sy'n derbyn sylw'r Bartneriaeth sydd yn is-grw^p y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc (ac yn cydweithio'n agos â'r Bartneriaeth Pobl Ifanc sy'n ymdrin â phlant a phobl ifanc o 11 i 25 oed).