Yn yr Adran Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai rydym yn gweithio i gadw pobl yn iach, yn hapus ac yn ddiogel yn Sir Gaerfyrddin. Rydym ni’n gweithio gyda phobl yn ein cymuned sydd ag angen cymorth, gofal neu ddiogelwch.
Rydym yn helpu pobl sydd ag amrywiaeth eang o anghenion iechyd a gofal cymdeithasol megis pobl hŷn sy'n gadael yr ysbyty, oedolion â salwch neu anabledd a phobl sydd ag angen cymorth i ofalu am rywun arall.
Yn y rhan hon o'r wefan, cewch wybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau i bobl ag anableddau dysgu ac arweiniad am ofal preswyl neu ofal nyrsio.
Gallwch holi am y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein* diogel neu drwy ffonio Careline+ ar 01267 224466.
*Mae’r ffurflen gyfeirio ar-lein hon ar gyfer oedolion (dros 18 oed) sydd o bosib angen cefnogaeth gofal cymdeithasol.
Galluoga’r ffurflen i aelodau’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol gyfeirio at wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion Cyngor Sir Gâr drwy Llinell Gofal+ i geisio asesiad am anghenion gwasanaethau gofal cymdeithasol neu iechyd cymunedol (ffisiotherapi neu therapi galwedigaethol). Er enghraifft, os ydych chi’n canfod eich gofal personol yn anodd i, gallech fod angen mynediad i wasanaethau megis gofal, gwybodaeth a chyngor a/neu offer i’ch helpu gyda gweithgareddau beunyddiol, ynghyd â pethau eraill.
Os ydych yn dymuno cyfeirio rhywun arall, mae’n rhaid gwneud hynny gyda’u caniatâd. Deliwn gyda chyfeiriadau newydd o fewn un diwrnod gwaith.
Peidiwch a defnyddio’r ffurflen gyfeirio ar-lein ar gyfer ymholiadau brys neu argyfwng. Ffoniwch Llinell Gofal+ ar 01267 224466 neu mewn argyfwng tu fas i oriau: 01558 824283.