Beth yw Pontio?
Mae tyfu i fyny a gadael yr ysgol yn cael ei alw weithiau’n "pontio". Weithiau mae’n anodd gwybod beth i’w wneud nesaf neu gwybod pa ddewisiadau sydd ar gael. Mae’n help gwneud cynlluniau am yr hyn yr hoffech ei wneud ar ôl gadael yr ysgol.
Gallwn eich helpu gyda’ch cynlluniau.
Gall ein staff sy’n gweithio yn y Gwasanaeth Pontio eich helpu i wneud penderfyniadau a dewisiadau am yr hyn y gallwch ei wneud. Gallwn helpu gofalu eich bod yn gwybod am yr holl gyfleoedd sydd ar gael ichi.
Gyda’n gilydd, gallwn weithio allan beth yw eich anghenion ac yna gallwn roi cyngor ac arweiniad ichi am y dewisiadau sydd gennych.
Gallwn eich helpu i benderfynu beth yr hoffech ei wneud.
Beth yw’r dewisiadau?
Efallai y gallwch ddewis o blith:
- Colegau
- Canolfannau Dydd
- Cyflogaeth â Chymorth neu Waith Gwirfoddol
- Chwaraeon a gweithgareddau hamdden
Gallwn drefnu ichi roi cynnig ar rai o’r gwasanaethau fel y gallwch benderfynu beth sydd orau ichi. Wedi ichi benderfynu, gallwn roi cymorth ymarferol i’ch helpu i ymuno â’r gwasanaethau. Bydd y Gwasanaeth Pontio yn eich helpu nes ichi ymgartrefu yn y gwasanaeth sydd orau ichi.
Beth os oes angen mwy nac un gwasanaeth arna i?
Gyda’n gilydd fe weithiwn gynllun allan, fel y gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau yn y ffordd sydd orau ichi.
Fyddwch chi’n dod o hyd i swydd imi?
Rydym yn gweithio’n agos â llawer o asiantaethau cyflogi all eich helpu a’ch cynghori gyda’ch dewis o waith.
Neu efallai yr hoffech roi cynnig ar waith gwirfoddol neu efallai yr hoffech gael swydd ddefnyddiol i’w gwneud yn ystod y dydd.
Gallwn roi gwybod ichi am Gyflogaeth â Chymorth, ble y cewch gymorth i gyflawni eich anghenion, i ddod o hyd i’r hyfforddiant a’r swydd sy’n gweddu ichi.