English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Cyfathrebu Cyflawn 

Beth yw Cyfathrebu Cyflawn?

Bob tro y mae dau berson yn cyfarfod mae cyfathrebu’n digwydd.

Pwrpas Cyfathrebu Cyflawn yw helpu pobl ag anableddau dysgu i gyfathrebu.

Mae ein gallu i gyfathrebu yn effeithio ar ein hunan-barch, ein hyder, ein gallu i ffurfio perthnasoedd, ein gallu i wneud penderfyniadau a’n gallu i gael rheolaeth ar ein bywydau.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Sir Benfro & Derwen a’r Adran Gofal Cymdeithasol a Thai yn cynnig cyrsiau dydd ar Gyfathrebu Cyflawn. Mae’r hyfforddiant hwn yn cynnig:

  • Gwybodaeth hanfodol am sut y mae pobl yn cyfathrebu ac am beth sy’n digwydd pan mae cyfathrebu’n chwalu
  • Sgiliau ymarferol arwyddo
  • Sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio symbolau
  • Sgiliau ymarferol wrth ddefnyddio gwrthrychau cyfeiriol
  • Gwybodaeth hanfodol am anhwylderau synwyriadol a rhwystrau eraill sy’n atal cyfathrebu

 


Tudalen wedi ei diweddaru ar 15/12/2008