Mae ein Cartrefi Gofal Seibiant i bobl ag anableddau dysgu yn ceisio darparu gwasanaeth o ansawdd uchel mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau, rhieni a chynhalwyr. Rydym yn ceisio helpu defnyddwyr gwasanaethau i ddefnyddio eu hawliau fel dinasyddion, gwireddu eu potensial a byw bywydau gwerth chweil. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth lawr lwythwch yr arweiniadau ar y dde.
Yr Hafan, Cartref Seibiant, Rhydaman
Lleolir Yr Hafan ynghanol tref Rhydaman ac mae canol y dref daith gerdded fer i ffwrdd. Mae’r cartref yn cynnwys un ystafell wely ar y llawr gwaelod a phedair ystafell wely ar y llawr cyntaf.
Cartref Gofal Seibiant Tir Einon
Lleolir Tir Einon ym mhentref cyfeillgar Llwynhendy, yn agos at siopau, tafarnau, Swyddfa’r Post a gwasanaethau eraill. Mae llwybr bws Llanelli gerllaw ac mae Canolfan Siopa Trostre daith gerdded o tua 20 munud i ffwrdd.
Mae staff yn cael hyfforddiant sefydlu ac yn mynd ymlaen i astudio ar gyfer Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol mewn Gofal Cymdeithasol. Ceir staffio 24 awr yn y cartref. Mae rhai staff yn ddwyieithog ac mae pob staff yn cael hyfforddiant SIGNALONG. Mae polisi dim ysmygu yn y cartref. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin hefyd yn darparu lleoedd Seibiant a Phreswyl Cymunedol trwy’r Gwasanaeth Lleoli Oedolion.
Mae 3 math gwahanol o gartref ar gael:
Uned 1
Mae gan yr uned hon un ystafell wely, ei lolfa/ystafell fwyta ei hun a chyfleusterau ystafell ymolchi. Gall gartrefu pobl sy’n arddangos ymddygiad heriol.
Uned 2
Mae gan yr uned hon dair ystafell wely, pob un ohonynt yn cynnwys cyfleusterau en suite. Mae hefyd yn cynnwys lolfa/ystafell fwyta gyffredin. Mae gan un o’r ystafelloedd gwely ei lolfa/ystafell fwyta a’i chegin fechan ei hun a gellir ei defnyddio’n fflat hunan gynhaliol ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau mwy abl neu gellir ei defnyddio at ddibenion asesu.
Uned 3
Mae gan yr uned hon bedair ystafell wely, dwy ohonynt yn cynnwys cyfleusterau en suite a’r ddwy arall yn rhannu ystafell ymolchi. Mae’r uned hon yn cynnwys offer codi trac ac offer arbenigol arall a gall gartrefu defnyddwyr gwasanaethau a chanddynt anghenion cynhaliol uchel. Mae’r uned yn cynnwys lolfa/ystafell fwyta gyffredin.
Mae pob lolfa/ystafell fwyta yn cynnwys cyfleusterau gwneud te/coffi a byrbrydau.