Beth yw Awtistiaeth?
Mae awtistiaeth yn anabledd datblygu gydol oes sy’n effeithio’r ffordd y mae person yn cyfathrebu ac yn ymwneud â phobl o’u cwmpas. Nid yw plant ac oedolion ag awtistiaeth yn gallu ymwneud ag eraill mewn ffordd ystyrlon. Mae eu gallu i ddatblygu cyfeillgarwch yn cael ei effeithio’n andwyol, ac felly hefyd eu gallu i ddeall teimladau pobl eraill.
Mae pobl ag awtistiaeth yn aml yn dioddef anableddau byw eraill, ond mae pawb sydd â’r cyflwr yn rhannu anhawster i wneud synnwyr o’r byd.
Mae yna hefyd gyflwr o’r enw Syndrom Asperger sy’n fath o awtistiaeth a ddefnyddir i ddisgrifio pobl ar ben gweithredol uwch y sbectrwm awtistaidd.
Beth yw nodweddion Awtistiaeth?
Mae gan bawb sydd ag awtistiaeth anhwylderau gyda rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu cymdeithasol a dychymyg. Yr enw ar hyn yw’r triad o anhwylder.
Rhyngweithio cymdeithasol – anhawster gyda pherthnasoedd cymdeithasol, er enghraifft ymddangos yn oeraidd a di-hid tuag at bobl eraill.
Cyfathrebu cymdeithasol – anhawster gyda chyfathrebu geiriol ac aneiriol, er enghraifft methu deall ystyr ystumiau, mynegiant wyneb neu dôn llais.
Dychymyg – anhawster gyda datblygiad chwarae a dychymyg, er enghraifft cael ystod cyfyngedig o weithgareddau dychmygus, sydd efallai’n cael eu copïo a’u dilyn yn ddiwyro ac ail-adroddus.
Yn ogystal â’r triad hwn, mae patrymau ymddygiad ail-adroddus yn nodweddion amlwg, ac felly hefyd amharodrwydd i newid trefniadau cyfarwydd.
Beth sy’n achosi Awtistiaeth?
Nid ydym yn gwybod beth yn union sy’n achosi awtistiaeth, ond mae ymchwil yn dangos fod ffactorau genetig yn bwysig. Mae gwaith ymchwil hefyd yn dangos cysylltiad posib rhwng awtistiaeth a gwahanol gyflyrau sy’n effeithio datblygiad yr ymennydd sy’n digwydd cyn, yn ystod neu’n fuan iawn ar ôl genedigaeth.
Nodau’r Gwasanaeth
Pwrpas y Gwasanaeth Cynhaliaeth Ddwys yw darparu ar gyfer anghenion oedolion ag anhwylderau sbectrwm awtistig a chyflyrau cysylltiol. Ein nod yw ymyrryd yn bwrpasol yn effeithiau anablol awtistiaeth trwy leihau straen a chynorthwyo gyda dysgu, yn hytrach na chreu amgylchedd sydd ond yn cydnabod a derbyn yr anabledd trwy fethu cynnig yr heriau angenrheidiol.
Byddwn yn creu cyfleoedd i Ddefnyddwyr y Gwasanaeth fel y gallant gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau yn y gymuned fel Cyflogaeth â Chymorth, gweithgareddau chwaraeon, crefftau ac ati. Mae Defnyddwyr y Gwasanaeth hefyd yn gallu manteisio ar gynhaliaeth broffesiynol fel ffisiotherapi, nyrsio cymunedol a gofal seibiant.
Sylfaen y Gwasanaeth Anhwylder Sbectrwm Awtistig yw ‘Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn’, sef cynllunio ar gyfer pob unigolyn. Bydd Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn cynnwys cefnogwyr pob unigolyn, h.y. teulu, ffrindiau, cynhalwyr, gweithwyr proffesiynol ac eiriolwyr. Bydd Cynllunio ar gyfer yr Unigolyn yn paratoi cynllun ffordd o fyw sy’n ymrymuso defnyddwyr y gwasanaeth i gyflawni eu nodau bywyd.
Rhwydwaith Ansawdd Awtistiaeth
Mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Ddwys yn aelod o’r rhwydwaith ansawdd awtistiaeth, sy’n cael ei reoli gan Sefydliad Prydeinig Anableddau Dysgu a’r Tîm Datblygu Cenedlaethol sy’n gweithio i adolygu a gwella ansawdd bywyd pobl a chanddynt anhwylder sbectrwm awtistig.
Gall y Rhwydwaith Ansawdd helpu:-
- cynnal a chefnogi pobl a chanddynt anhwylder sbectrwm awtistaidd, teuluoedd a phobl leyg i weithio gyda gweithwyr proffesiynol mewn tîm adolygu
- treulio amser mewn gwasanaethau yn uniongyrchol gyda phobl a chanddynt anhwylderau sbectrwm awtistaidd
- defnyddio deilliannau i edrych ar sut brofiad yw bywyd i bobl a chanddynt anhwylder sbectrwm awtistig
- canolbwyntio ar welliannau ansawdd parhaus
- gwneud cynllunio gweithredu yn rhywbeth ystyrlon a chadarnhaol i bobl a chanddynt anhwylder sbectrwm awtistig
- cynorthwyo i wella gwasanaethau fel sy’n ofynnol gan bapur gwyn y Llywodraeth ‘Gwireddu’r Addewidion’.
- Mae’r Rhwydwaith Ansawdd yn anelu at wneud gwelliannau i bobl ag anableddau dysgu. Canolbwyntiwn ar bobl a’u bywydau, nid ar adeiladau a phapur.