A ydych chi'n edrych ar ôl perthynas neu gyfaill?
Do you care for someone with a long-term health condition?
A ydych chi'n eu helpu â'u gofal personol e.e. codi yn y bore, gwisgo, bwyta ac ymolchi?
A ydych chi'n rhoi cymorth emosiynol neu'n cadw llygad arnynt?
A ydych chi'n gwneud tasgau cartref fel golchi eu dillad, siopa, coginio ac ati, ar eu rhan?
Os 'ydw' yw'r ateb ac os ydych chi'n gwneud y tasgau hyn yn rheolaidd ac am gyfnod sylweddol - neu'n bwriadu gwneud hynny - yna rydych chi'n ofalwr ac mae'n bosib y gallwn ni eich helpu.
Mae gofalwyr yn rhoi gofal di-dâl i berthnasau, ffrindiau neu gymdogion sy'n methu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd salwch, anabledd neu am eu bod yn fregus. Mae plant yn gallu bod yn ofalwyr hefyd. Mae gofalwyr ifainc hyd at 18 oed yn "Blant Mewn Angen" ac mae ganddynt hawliau cyfreithiol i'w diogelu.
Os ydych chi'n cynnig gofal sylweddol a rheolaidd yna fe ddylech gael asesiad o'ch anghenion personol i weld a oes unrhyw gymorth neu gefnogaeth ar gael i'ch helpu a'ch cynnal yn eich gwaith gofalu. Mae'n rhaid i ofalwyr ifainc 16 oed ac iau gael asesiad yn unol â'r "Deddf Plant" a bydd gofalwyr 16 a 18 oed yn gallu cael eu hasesu fel oedolion sy'n gofalu.
Download a copy of the Are You A Carer leaflet for more information.
Mae Strategaeth a Chynllun Gweithredu Sir Gâr ar gyfer Gofalwyr yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.