English |  BSL | Hepgor gwe-lywio |  Testun yn Unig |  Newid maint y testun  A A A
Strategaeth Cefnogi Pobl 2008-11 
Director of Social Care, Health and Housing Bruce McLernon

Mae Sir Gaerfyrddin wedi lansio ei strategaeth dair blynedd newydd ar gyfer darparu tai â chymorth o safon i bobl sy'n agored i niwed yn y sir. Mae aelodau Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Cefnogi Pobl 2008-11, a hynny'n dilyn ymgynghori â'r cyhoedd ynghylch y fersiwn ddrafft o'r strategaeth rhwng mis Chwefror a mis Ebrill eleni.

Cafodd y strategaeth ei lansio gan Bruce McLernon, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai, a'r Cynghorydd Hugh Evans, Hyrwyddwr Cefnogi Pobl, yng nghyfarfod y Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl ar 5ed Tachwedd 2008.

Ychwanegu Ffotograffau

Dywedodd Bruce McLernon, y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai: “Mae'r Strategaeth yn pennu sut y bydd y Cyngor, gyda'i bartneriaid, yn rhoi cymorth cysylltiedig â thai i amrywiaeth eang o breswylwyr, a fydd yn elwa ar y cymorth gan y bydd yn eu helpu i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.”

Yn ôl y Cynghorydd Hugh Evans, Hyrwyddwr Cefnogi Pobl:  “Mae'r Strategaeth hon yn pennu'r cyflawniadau, beth rydym yn mynd i'w wneud, a sut rydym yn mynd i fwrw ati.
Y brif neges yw y bydd pawb yn Sir Gaerfyrddin yn derbyn y cymorth angenrheidiol yng nghyswllt tai i gynnal llwyfan sefydlog yn eu bywydau a fydd yn eu galluogi i gyflawni eu gwir botensial, gwella ansawdd eu bywyd, a dod yn aelodau gwerthfawr o’u cymunedau.”

Hon yw strategaeth gyntaf y Tîm Cefnogi Pobl yn Sir Gaerfyrddin, a'i nod yw pennu sut y caiff y rhaglen Cefnogi Pobl ei gweithredu yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae blaenoriaethau'r strategaeth o ran datblygu gwasanaethau newydd yn cynnwys cymorth i gyn-droseddwyr, pobl â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, pobl â nam ar eu golwg, gwasanaethau cymorth cysylltiedig â thai i bobl hŷn, a chysylltiadau cymorth cysylltiedig â thai i ofalwyr ifanc.  

Mae'r Strategaeth wedi cael ei datblygu drwy ymgynghori â'r sawl sy'n darparu ac yn defnyddio'r gwasanaethau, a bydd yn clustnodi'r anghenion yn y sir o ran cymorth cysylltiedig â thai er mwyn llywio'r gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol. Hefyd, mae’n cyflwyno’r cefndir o ran y gwasanaethau cyhoeddus lleol a’r amgylchedd y mae’r rhaglen yn gweithredu o’u mewn, ac yn disgrifio sut y bydd y rhaglen yn parhau i weithio mewn partneriaeth â’n cydweithwyr ar draws sefydliadau statudol, anstatudol, a gwirfoddol.

Er mwyn sicrhau bod y Strategaeth yn cael ei gweithredu'n effeithiol, mae'r Tîm Cefnogi Pobl wedi datblygu Cynllun Gweithredu, sy'n disgrifio sut y caiff y Strategaeth ei chyllido a'i rhoi ar waith. Caiff y Cynllun hwn ei adolygu a'i fonitro'n rheolaidd. Bydd y newyddion diweddaraf am y Cynllun Gweithredu yn cael ei gynnwys yn rheolaidd ar ein gwefan ac yn ein llythyrau newyddion.

Tudalen wedi ei diweddaru ar 19/1/2009