Mae Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl (GCCP), a sefydlwyd yn 2002, yn cynnwys cynrychiolwyr o’r canlynol:
• Gwasanaethau Tai
• Gwasanaethau Oedolion i gynnwys cynrychiolwyr o'r pedwar grŵp canlynol:
o Iechyd Meddwl
o Anableddau Dysgu
o Pobl hŷn
o Anabledd Corfforol
• Y Bwrdd Iechyd Lleol
• Addysg a Gwasanaethau Plant
• Adran y Prif Weithredwr
• Gwasanaeth Prawf Dyfed-Powys
• Ymddiriedolaeth GIG Hywel Dda
Adolygir cylch gwaith y grŵp bob blwyddyn. Mae pob un o’r partneriaid yn chwarae rhan weithredol. Yn ystod cyfres o gyfarfodydd mae GCCP yn ystyried anghenion cymorth sy'n gysylltiedig â thai ar gyfer pob grŵp o gleientiaid.
Mae GCCP yn gwneud penderfyniadau ynghylch comisiynu, datgomisiynu ac ailfodelu gwasanaethau y mae Cefnogi Pobl yn eu cyllido, yn seiliedig ar y canlynol:
• Tystiolaeth a gyflwynwyd gan y tîm Cefnogi Pobl a chomisiynwyr gwasanaeth eraill ynghylch prosiectau sy’n gweithio’n dda ac yn cyflawni Strategaeth Cefnogi Pobl 2008-11.
• Nodau strategaethau megis y Strategaeth Ddigartrefedd a’r Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles.
• Canlyniadau’r Ymarfer Mapio Anghenion.
• Matrics sgorio blaenoriaeth cymeradwy
Cadeiriwyd y grŵp gan y Penaethiaid Gwasanaeth yng Nghyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai Cyngor Sir Caerfyrddin, Rheolwr Troseddwyr a Chyflogaeth Gwasanaeth Prawf Dyfed-Powys, a Phennaeth Partneriaethau a Chomisiynu Integredig Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin. Mae’r ffaith bod cynrychiolwyr o’r Gwasanaeth Prawf a’r Bwrdd Iechyd Lleol wedi bod yn cadeirio’r Grŵp Cynllunio wedi helpu i gryfhau’r cysylltiadau â’r sefydliadau hyn. Ar hyn o bryd, mae Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Thai.
Dyddiadau Cyfarfodydd yn 2009/10
| Dydd Llun 6ed Ebrill 2009 |
10yb-12yp |
| Dydd Iau 21ain Mai 2009 |
2yp-4yp |
| Dydd Iau 2il Gorffennaf 2009 |
10yb-12:30yp |
| Dydd Iau 17eg Medi 2009 |
10yb-12:30yp |
| Dydd Iau 29ain Hydref 2009 |
10yb-12:30yp |
| Dydd Iau 3ydd Rhagfyr 2009 |
10yb-12:30yp |
| Dydd Iau 21ain Ionawr 2010 |
10yb-12:30yp |
| Dydd Iau 4ydd Mawrth 2010 |
10yb-12:30yp |