Defnyddir y System Fonitro Fisol i gasglu gwybodaeth bwysig am berfformiad y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â thai yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r wybodaeth hon
yn cael ei chasglu a'i chyflwyno bob chwarter i Grŵp Cynllunio Cefnogi Pobl.
yn llywio ymweliadau monitro.
yn cyfrannu at adolygiadau rheolaidd o'r gwasanaethau.
Bydd y system newydd hon hefyd yn ein galluogi i ddechrau ystyried canlyniadau'r cymorth ar gyfer defnyddwyr y gwasanaethau. Mae'r system yn cynnwys ein holiadur ymadael newydd a fydd yn ein helpu i gael gwybod sut mae defnyddwyr y gwasanaethau wedi elwa ar eu cymorth.
Cwblhewch y System Fonitro Fisol